Blaenoriaethau Prifysgolion Cymru: a yw’r Gymraeg yn un ohonynt?

Estynnwn wahoddiad cynnes i chi ymuno â ni yn y cyflwyniad cyhoeddus yma gan Yr Athro Gwynedd Parry, Pennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe yn trafod “Blaenoriaethau Prifysgolion Cymru: a yw’r Gymraeg yn un ohonynt?” Bydd cyfle i holi a thrafod ar ddiwedd y cyflwyniad.

Dyma linc i ymuno:

https://us06web.zoom.us/j/84818423827?pwd=EjU4Qjuc15bFnxqskBGyR6j7OoNNXN.1

ID y cyfarfod: 848 1842 3827
Cyfrinair: 328488

Bydd y cyflwyniad yn cychwyn am 7pm Nos Lun nesaf y 18fed o Fawrth am hyd at 30 munud gyda chyfle wedyn am drafodaethau agored. Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio.

 

 

POLISÏAU’R LLYWODRAETH YN ANELU AT 620,000 O SIARADWYR CYMRAEG, NID MILIWN

620,000 yw’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg sy’n debygol erbyn 2050, yn ôl papur trafod gan Dyfodol i’r Iaith. Er twf ysgolion Cymraeg a gwella dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg yn cyfrannu at y nifer, bydd y nod o filiwn ymhell o gael ei gyrraedd.

Hyd yn oed pe bai twf addysg Gymraeg yn dyblu, a chynlluniau eraill yn llwyddo, mae’r papur yn awgrymu mai 750,000 o siaradwyr Cymraeg yw’r nod mwyaf gobeithiol.

Mae’r papur yn nodi bod angen buddsoddi’n llawer mwy helaeth yn y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar, mewn recriwtio staff ac mewn datblygu cyrsiau dwys dysgu Cymraeg.

Os bydd y nod presennol o sefydlu 23 ysgol Gymraeg newydd a 25 dosbarth Cymraeg ychwanegol erbyn 2033 yn parhau, dywed Dyfodol i’r Iaith y bydd 28% o blant cynradd mewn addysg Gymraeg erbyn 2040. Targed y Llywodraeth oedd cael 30% mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’n glir o ystadegau addysg, a’r niferoedd sy’n dysgu’r Gymraeg fel oedolion, bod angen buddsoddi’n llawer mwy helaeth i gael unrhyw obaith o nesáu at y miliwn.

“Mae angen gwneud y proffesiwn dysgu’n un atyniadol unwaith eto, ac mae angen cynllunio rhaglen gynhwysfawr o ddysgu Cymraeg ar gyrsiau dwys i ddarpar athrawon ac i staff cylchoedd chwarae.”

Bydd Dyfodol i’r Iaith yn holi’r Llywodraeth am gyfarfod ar sail y papur trafod, gan ofyn am dargedau penodol ar sut caiff y miliwn ei gyrraedd.

“Y peth pwysig,” medd Heini Gruffudd, “yw bod targedau credadwy a chyraeddadwy’n cael eu gosod er mwyn sicrhau twf cadarn, yn hytrach na thaflu ffigyrau lled obeithiol i’r awyr.”

Darllenwch y papur trafod llawn yma: Papur trafod: TUAG AT Y MILIWN – RÔL ADDYSG