Adolygiad y Cwricwlwm Cenedlaethol

Cafodd yr Athro Graham Donaldson ei benodi gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trwyadl o’r Cwrwiclwm Cenedlaethol a dulliau asesu yng Nghymru. Yn ei ymateb i’r adolygiad mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw am roi gwell cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fod yn gwbl ddwyieithog ac am drawsnewid dysgu Cymraeg fel ail iaith

Mae’r ymtaeb yn llawn yma: Adolygu’r Cwricwlwm Ymchwiliad Donaldson Ymateb Dyfodol:

Cymraeg i Oedolion

ANGEN DYBLU GWARIANT I WAITH CYMRAEG I OEDOLION

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhoi croeso i’r drefn newydd i waith Cymraeg i Oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd trefn ganolog yn cychwyn ym mis Medi 2015.

“Roedd cael trefn ganolog yn un o argymhellion Dyfodol i’r Iaith i Grŵp Adolygu Cymraeg i Oedolion,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith. “Wrth gael Sefydliad Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion, bydd modd i’r maes gael ei arwain gan arbenigwyr.”

Ond mae Dyfodol i’r Iaith yn poeni na fydd gan y Sefydliad ddigon o arian i ddatblygu’r maes fel y dylai.

“Mae’n drueni mawr, wrth ad-drefnu, bod y Llywodraeth yn torri’r arian fydd ar gael i Gymraeg i Oedolion gan 8%.  Mae’r gwariant ar y maes yn awr ryw draean o’r hyn ydyw yng Ngwlad y Basgiaid, sydd mewn sefyllfa debyg i ni. Os ydyn ni o ddifri am roi bywyd newydd i’r Gymraeg ar draws Cymru mae angen i ni ddyblu’r gwariant, nid ei gwtogi,” meddai Heini Gruffudd.

“Dim ond trwy wario digonol y bydd modd i Gymraeg gael ei dysgu i oedolion yn drylwyr, gyda digon o oriau dysgu, ac mewn digon o fannau lleol.”

“Rydyn ni’n croesawu’r pwyslais ar y Gymraeg mewn teuluoedd, ond mae angen cael trefn addas i ddatblygu byddin o athrawon yn ein hysgolion, a llu o weithwyr sy’n delio â’r cyhoedd.

Ym mis Hydref 2012 cyflwynodd Dyfodol i’r iaith naw o argymhellion, gan gynnwys dyblu’r gwariant ar Gymraeg i Oedolion.

Roedd yr argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Cynnig rhaglenni dysgu hyd at 1200 o oriau
  • Sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg
  • Rhaglen rhyddhau dysgwyr o’u gwaith

 

Galw am gefnogi myfyrwyr o Gymru yng Nghymru

Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi myfyrwyr o Gymru sydd am astudio yng Nghymru, ond peidio â rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr o Gymru sydd am astudio mewn gwledydd eraill.
Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith, mewn ymateb i adroddiad Grŵp Cyfarwyddwyr Ariannol Addysg Uwch Cymru ar ffioedd addysg uwch.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Byddai rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr o Gymru sy’n aros yng Nghymru’n gam tuag at ddatrys nifer o faterion:
•   Byddai’n rhoi hwb sylweddol i ddatblygu cyrsiau Cymraeg addysg uwch, a chynlluniau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
•   Byddai’n lliniaru peth ar allfudo o Gymru, ac yn cadw’n doniau gorau yng Nghymru
•   Bydd hyn yn ei dro’n rhoi hwb i economi cynhenid Cymru.”

Ychwanegodd Heini Gruffudd, “Un o fanteision mawr arall hyn yw y bydd yn rhyddhau digon o gyllid i Lywodraeth Cymru roi grant llawn i fyfyrwyr o gefndir difreintiedig i astudio yng Nghymru a bydd hyn yn gwneud addysg uwch yng Nghymru’n llawer mwy cynhwysol.”

Ar hyn o bryd mae myfyrwyr o’r Alban yn cael addysg uwch am ddim yn yr Alban, ac mae’r Alban yn rhoi addysg am ddim hefyd i fyfyrwyr o’r  Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi grant o hyd at £5,425 i bob myfyriwr o Gymru sy’n astudio yng Nghymru ac yn Lloegr.