Cyrraedd Pum Nod

Mae pum cam o bwys i’r iaith wedi’u cymryd eleni, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.  Bu Dyfodol i’r Iaith yn cynnal trafodaethau mewn sawl maes,  ac mae hyn yn dechrau dwyn ffrwyth, yn ôl y Cadeirydd, Heini Gruffudd.

Y pum llwyddiant yw:

  • Sefydlu Endid Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Cynlluniau i sefydlu pedair Canolfan Gymraeg mewn pedair tref yng Nghymru
  • Posibilrwydd cael dwy sianel radio Cymraeg
  • Cyhoeddi adnodd Cyngor Gofal Cymru ar ddefnyddio’r Gymraeg ym myd gwasanaethau gofal
  • Polisi addysg Sir Gâr, yn rhan o bolisi iaith pellgyrhaeddol y sir.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni wedi cael gwrandawiad cadarnhaol gan wleidyddion a gan sawl pwyllgor a chorff yn ystod y flwyddyn, ac mae’n dda gweld bod nifer o’n hawgrymiadau wedi cael eu derbyn.”

“Mae’r cyfan o’r pum cam yma’n ymwneud ag ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lafar a chreu amodau teg i gael siaradwyr newydd.”

“Mae’n allweddol bod y rhai fydd yn gyfrifol am weithredu’r camau hyn yn gwneud hynny’n effeithiol a gydag argyhoeddiad, fel bod modelau da o weithredu’n cael eu sefydlu.”

“Rydyn ni yn ystod y mis nesaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod lle i’r iaith yn y Bil Cynllunio sy’n cael ei ystyried gan y Llywodraeth.”

Papur Gwyn Anghenion Dysgu Ychwanegol

Wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi siom dirfawr nad oes prin ddim cyfeiriad at y Gymraeg yn y ddogfen. Mae Dyfodol wedi cynnig sawl awgrym adeiladol am sut y gellir cynnwys y Gymraeg yn y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Ymhlith awgrymiadau Dyfodol mae:

  • Cynnwys cymal ar wyneb y Bil yn sicrhau hawl plentyn / person ifanc i gael cefnogaeth yn y Gymraeg
  • Cynnwys adran yn y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn amlinellu ym mha iaith y dylid darparu cefnogaeth
  • Cynnwys cymal yn y Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a cholegau addysg bellach i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn y Gymraeg pan fo galw am hynny
  •  Cynnwys gofynion gorfodol parthed y Gymraeg yn y Cod Ymarfer gan gynnwys:
    • hawl y plant/pobl ifanc a’u teuluoedd i gael trafod y CDU yn y Gymraeg, ar unrhyw adeg yn y broses (llunio, adolygu ac ati)
    • hawl i ddarpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg (0-25 oed) a sicrhau dilyniant ieithyddol
    • hawl i wneud a gwrando apêl yn y Gymraeg (drwy brosesau lleol a gerbron y Tribiwnlys)
    • darpariaethau ynghylch y Gymraeg mewn perthynas â chydweithio aml-asiantaeth
    • darpariaethau ar gyfer cynllunio’r gweithlu i sicrhau cyflenwad digonol o arbenigwyr sy’n siarad Cymraeg
    • eiriolaeth annibynnol yn y Gymraeg

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd yn argymell y dylai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol weithio gyda Llywodraeth Cymru i adnabod lle mae prinder staff cymwys i weithio ym maes ADY yn y Gymraeg a darparu cyrsiau hyfforddiant pwrpasol yn y meysydd hyn. Mae hefyd angen i Estyn gael y pwer i arolygu sut mae awdurdodau lleol yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag ADY yn y Gymraeg ac adrodd ar unrhyw fethiannau i ddarparu cefnogaeth. Ymateb Papur Gwyn Anghenion Dysgu Ychwanegol

Galw am dreblu arian Cymraeg i Oedolion

Mae angen treblu’r arian sy’n cael ei roi i Gymraeg i Oedolion.  Dyna ddywed Dyfodol i’r Iaith yn sgil y cyhoeddiad y bydd cyllid Cymraeg i Oedolion yn cael ei dorri gan 7%. Mae Dyfodol i’r Iaith yn dra siomedig bod y toriadau i Gymraeg i Oedolion – sef £2.3 miliwn – yn fwy na’r arian ychwanegol sy’n cael ei gynnig i’r Mentrau Iaith ac i brosiect ar yr economi yn Nyffryn Teifi. Mae angen i raglen Cymraeg i Oedolion fod yn rhan ganolog o adfywio’r iaith yn y gymuned yn ôl Dyfodol i’r Iaith. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi ystyried rôl hollbwysig Cymraeg i Oedolion wrth dargedu rhieni newydd ac wrth hyfforddi gweithlu Cymraeg. I wneud gwahaniaeth mae angen gwario swm tebyg i Wlad y Basgiaid, sef tua £40 miliwn y flwyddyn.” Ychwanegodd Heini Gruffudd, “Dyw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau ni ddim yn ddigon dwys, a does dim rhaglen eang gyda ni i ryddhau pobl o’r gwaith i ddysgu’r iaith.” “Yn ardaloedd llai Cymraeg Cymru mae angen rhaglen sy’n targedu rhieni er mwyn newid iaith y cartref, ac i wneud hynny bydd angen i rieni gael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith. Mae angen mawr hefyd am sefydlu cadwyn o Ganolfannau Cymraeg  i roi bywyd cymdeithasol newydd i’r iaith.” “Yn yr ardaloedd Cymraeg mae gan Gymraeg i Oedolion rôl allweddol wrth ddysgu’r iaith i fewnddyfodiaid.” “Mewn cyfnod o wanhad cymunedau Cymraeg, dyma’r union adeg i weithredu’n fentrus i ehangu darpariaeth Cymraeg i Oedolion.” Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion, ac yn galw am gyllid o £30 miliwn i’r Ganolfan yn lle’r £10 miliwn presennol.