DYFODOL YN CROESAWU DOGFEN Y COMISIYNYDD AR OFAL PLANT AC ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR CYFRWNG CYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu nodyn briffio diweddar Gomisiynydd y Gymraeg ar Ofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg fel dogfen ddadlennol, sy’n codi cwestiynau hynod heriol.

Mae’r ddogfen yn amlinellu’r heriau a chyfleoedd o safbwynt darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yng nghyd-destun nod y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050. Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Bydd angen i’r Llywodraeth wynebu anghenion hyfforddi’r gweithlu er mwyn gosod sylfaen gadarn ar gyfer addysg a gofal cyfrwng Cymraeg i blant cyn oedran ysgol, ac mae’r ddogfen hon yn nodi’n glir faint y gwaith. Mae’n gosod darlun enbyd o heriol mewn rhai mannau, a gobeithiwn y bydd yn codi trafodaeth eang yn lleol a chenedlaethol.

http://http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Nodyn%20Briffio%20Darpariaeth%20Gofal%20Plant%20ac%20Addysg%20Blynyddoedd%20Cynnar%20Cyfrwng%20Cymraeg.pdf

GALW AM WNEUD Y GYMRAEG YN HANFODOL MEWN SWYDDI ADDYSG

Mae Dyfodol yr Iaith am i’r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer swyddi Arweinyddion Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.  Mae’r swyddi hyn, yn y pedwar Consortiwm Addysg, wedi’u hysbysebu yn y Guardian, a dim ond ‘dymunol’ yw hi bod yr ymgeiswyr yn siarad y Gymraeg.

 

Medd Dyfodol, “Mae hi’n hynod siomedig nad yw’r Consortia Addysg Rhanbarthol yng Nghymru yn gweld bod angen i arweinwyr Dysgu Ychwanegol fod yn siarad y Gymraeg.

 

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf mae’r Gymraeg wedi cael lle annigonol ym maes addysg arbennig. Mae’n bryd newid y drefn, fel bod plant ysgolion Cymraeg yn cael eu trin yn gyfartal o ran eu sgiliau iaith a’u datblygiad addysgol.

 

Er bod dau gonsortia’n nodi bod y Gymraeg yn ‘ddymunol iawn’ ar gyfer y swyddi, dyw hyn ddim yn ddigon.  Mae angen i’r rhai sy’n cael y swyddi hyn fod â gwybodaeth drylwyr o’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru.  Mae gallu trafod y maes yn y Gymraeg yn rhan annatod o hyn, gan gynnwys gwybod yn drylwyr am anghenion disgyblion Cymraeg a dwyieithog.”

GALW AM OEDI ARIANNU YSGOLION OHERWYDD PERYGL I DWF ADDYSG GYMRAEG

Caiff datblygiad addysg Gymraeg ei rwystro tan 2024 heb obaith i’r Llywodraeth gyrraedd ei nod o 30% o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.  Dyna ofn Dyfodol i’r Iaith wrth i Awdurdodau Lleol gyflwyno ceisiadau am gyllid erbyn diwedd Gorffennaf.

Mae ceisiadau am gyllid y Llywodraeth i ddatblygu ysgolion i fod i’w cyflwyno’n fuan, ac awdurdodau am gyflwyno’u ceisiadau erbyn diwedd Gorffennaf, a chael dyfarniad erbyn yr hydref.  Cyllid ail rownd Cyllid Ysgolion yr 21ain ganrif yw hyn, sy’n rhoi arian i ddatblygu ysgolion o 2019-2024.  Mae £600 miliwn ar gael gan y Llywodraeth ac mae disgwyl i awdurdodau lleol gyfrannu’r un swm.

Pryder Dyfodol i’r Iaith yw bod y cyllid hwn i gael ei ddosbarthu cyn i lawer o Gynlluniau Datblygu Addysg Gymraeg awdurdodau lleol gael eu derbyn gan y Llywodraeth.  Pryder arall yw nad yw hyn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth, a gyhoeddwyd wythnos yn ôl.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae lle mawr i ofni nad yw gwahanol adrannau’r Llywodraeth yn cydweithio.  Mae’n glir i ni fod awdurdodau lleol yn paratoi eu cynlluniau heb fod eu Cynlluniau Addysg Gymraeg wedi cael eu derbyn, ac yn amlwg heb iddynt gael unrhyw gyfle i ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”

“Canlyniad hyn yw y bydd ceisiadau am arian yn cael eu cyflwyno heb fod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cynghorau.  Yn rownd cyntaf Cyllid Ysgolion yr 21ain, gwariodd rhai cynghorau y nesaf peth i ddim ar addysg Gymraeg.  Gall hyn ddigwydd eto.”

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i oedi proses gyllido ail rownd Ysgolion 21ain ganrif, ac yn gofyn i’r broses hon gael ei chlymu wrth Gynlluniau Addysg Gymraeg y Siroedd ac wrth Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”