CYFARFOD CYHOEDDUS ABERYSTWYTH 24/04/18 – NEGES DYFODOL

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn sefydlu corff annibynnol i hyrwyddo’r Gymraeg.  Bydd y corff, pan gaiff ei sefydlu, yn rhoi blaenoriaeth i weithredu cynlluniau iaith ar sail egwyddorion cydnabyddedig cynllunio ieithyddol.  Dyna neges Cynog Dafis mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddiwedd Ebrill.

Er bod camau wedi’u cymryd ym maes hawliau unigolion dros y pum mlynedd diwethaf, mae hi’n bwysig bod defnydd o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo yn y cartref, yn y gymuned, ac ym myd gwaith.  Nid mater i ddeddfu yn ei gylch yw hyn, ond testun gweithredu cadarnhaol gan y llywodraeth ar lawr gwlad.

Mae angen ystyried sut gall siroedd gorllewin Cymru gyfuno i roi polisïau llesol i’r Gymraeg ar waith.  Byddai hyn yn cynnwys twf economaidd a chynllunio tai yn ogystal â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwaith mewn awdurdodau lleol a chyrff eraill.

Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran statws y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd, yr angen mawr yw cryfhau’r Gymraeg yn y cartref, yn y gymuned ac mewn addysg.  Y tri maes yma yw’r conglfeini ar gyfer sicrhau twf yn niferoedd siaradwyr ac yn y defnydd o’r Gymraeg yn y dyfodol.

YMATEB DYFODOL I GYNLLUN ADDYSG Y LLYWODRAETH

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn ofalus i Strategaeth y Llywodraeth i ddatblygu addysg Gymraeg dros y pedair blynedd nesaf, er mwyn cefnogi’r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

Mae’r mudiad yn gwerthfawrogi’r gwaith paratoi a wnaed ar y Cynllun, ac yn croesawu’n gynnes y nod a’r ymrwymiad i dwf addysg Gymraeg. Mae’r gydnabyddiaeth bod angen recriwtio athrawon  hefyd yn gam cadarnhaol ac angenrheidiol.

Daw’r cyhoeddiad hwn ar amser allweddol i dwf y Gymraeg, a dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “Mae’n rhaid i’r Cynllun hwn lwyddo wedi methiant y Llywodraeth i gyrraedd nodau’r gorffennol.”

Aeth ymlaen i ymhelaethu ar hyn:

“Mae’n bryder mawr i ni fod y ganran mewn addysg Gymraeg wedi disgyn mewn 9 sir dros y 5 mlynedd diwethaf. Yn wahanol i’r Llywodraeth, rydym yn amau’n fawr na fydd newid dramatig yn digwydd trwy’r ysgolion Saesneg. Ni allent ddos yn agos at gyflwyno sgiliau iaith cyflawn yn y ddwy iaith, fel y gwna ysgolion Cymraeg.

“Byddwn yn galw felly am i’r Llywodraeth greu rhaglen frys ar gyfer twf ysgolion Cymraeg.”

DYFODOL YN CROESAWU’R PENDERFYNIAD I YMESTYN GWAITH Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu penderfyniad y Llywodraeth i ymestyn gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys y sector addysg bellach.

Mae’r mudiad wedi bod yn dadlau pwysigrwydd y maes hwn mewn perthynas â chefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Dywed Heini Gruffydd, Cadeirydd Dyfodol:

“ Credwn fod hwn yn benderfyniad pwysig, ac yn un i’w groesawu’n gynnes; yn enwedig gan mai siomedig iawn fu’r ddarpariaeth o safbwynt defnydd a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gorffennol. Edrychwn ymlaen at weld y sector hwn yn datblygu dan ddylanwad y Coleg, ac yn cyfrannu at y gwaith angenrheidiol o Gymreigio’r gweithle a’r defnydd a wneir o’r Gymraeg.”