Y Bil Cynllunio (Cymru)

Wrth i Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ystyried gwelliannau i’r Bil Cynllunio (Cymru) yr wythnos hon, mae Dyfodol i’r Iaith yn pwyso am gryfhau’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg mewn perthynas â cheisiadau unigol.

Tra’n gwerthfawrogi’r parodrwydd a ddatganwyd eisoes dros gryfhau’r Gymraeg o fewn y gyfundrefn cynllunio, mae Dyfodol yn credu bod nawr angen dileu unrhyw amwyster ynglŷn â sefyllfa’r Gymraeg fel mater i’w ystyried mewn perthynas â cheisiadau unigol.

Mae angen sefydlu’r egwyddor hwn yn gadarn o fewn mecanwaith sy’n rhoi ystyriaeth ddyledus i’r Gymraeg.

Dywed Emyr Lewis ar ran Dyfodol i’r Iaith, “ Mae’r galw am hyn wedi bod yn gyson gan Dyfodol a’r mudiadau iaith eraill, ac mae angen setlo’r amwysedd unwaith ac am byth.”

“Mae’r Bil hwn yn cynnig cyfle i warchod y Gymraeg yn yr un modd a rhoddir gwarchodaeth eisoes i ystyriaethau megis cadwraeth a’r amgylchedd; ein blaenoriaeth bellach yw pwyso ar ein gwleidyddion i wireddu hyn ”

Ymateb Dyfodol I’r Iaith i Adroddiad Donaldson

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gadarn o’r farn bod angen gweledigaeth eang am le’r Gymraeg yn y system addysg ac ym mywyd Cymru.  Mewn ymateb i adroddiad yr Athro Graham    Donaldson, byddem yn croesawu rhai elfennau, yn benodol:

  • Bod yr adroddiad yn cydnabod cyfraniad ysgolion Cymraeg
  • Bod pwyslais ar allu cyfathrebu gyda gwersi Cymraeg gorfodol hyd at 16

Fodd bynnag, teimlwn y collwyd sawl cyfle, ac fe nodir:

  • Nad oes gweledigaeth eang am rôl addysg Gymraeg wrth lunio gwlad ddwyieithog
  • Nad oes cydnabyddiaeth o’r angen am ehangu addysg Gymraeg ar raddfa fawr
  • Nid oes cyfeiriad at y modd y bu i’r system addysg gyfrannu at ddifa’r iaith, a’i dyletswydd yn awr i gyfrannu at ei hadfer

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at drafod yr adroddiad gyda’r Llywodraeth gyda’r nod o weld ehangu addysg Gymraeg yn flaenoriaeth.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae adolygu addysg yng Nghymru’n rhoi cyfle euraidd i’r Llywodraeth drefnu twf addysg Gymraeg.

“Mae adroddiad Donaldson am weld ysgolion Cymraeg yn rhoi cymorth i ysgolion Saesneg, ond mae ysgolion Cymraeg eisoes o dan bwysau mawr gyda’r gwaith o gyflwyno’r Gymraeg i genhedlaeth newydd o ddisgyblion.”

“Yr hyn sydd ei angen yn y lle cyntaf yw ateb y galw am addysg Gymraeg, ac mae angen dyblu nifer yr ysgolion Cymraeg i ddod yn agos at wneud hynny.”

“Yn gyffredinol, mae angen i’r ad-drefnu addysg fod yn rhan annatod o weledigaeth y Llywodraeth ar greu gwlad ddwyieithog, a dw i ddim yn gweld bod yr adroddiad, fel y mae, yn dod yn agos at wneud hyn.”