Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ddod a’r Safonau Iaith i rym cyn gynted â phosib i sefydliadau sy’n derbyn dros £400,000 o nawdd cyhoeddus. Yn y cyfamser, mae’r mudiad hefyd yn galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg weithredu hyd eithaf ei phwerau i sicrhau ymrwymiad i’r Gymraeg gan sefydliadau o’r math.
Yn dilyn y cwynion diweddar ynglŷn â darpariaeth ieithyddol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, cysylltodd Dyfodol â Chomisiynydd y Gymraeg, a chael ar wybod mai statws “gwirfoddol” sydd i Gynllun Iaith y sefydliad ar hyn o bryd. Golygai hyn na fydd yn statudol ofynnol iddynt ymrwymo i osgoi trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg tan i’r Safonau Iaith ddod i rym. Ar hyn o bryd, ni rhagwelir y bydd hyn yn digwydd am rai misoedd.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:
“Mae’r Ardd Fotaneg yn sefydliad cenedlaethol a enwir ym Mesur y Gymraeg, ac eto, does dim rheidrwydd arnynt wneud dim tu hwnt i’w gwirfodd ar hyn o bryd. Dengys hyn yr angen i fwrw mlaen gyda’r Safonau Iaith.
Yn y cyfamser, galwn ar i Gomisiynydd y Gymraeg bwyso ar sefydliadau o’r math i gynllunio a darparu gwasanaethau Cymraeg i’w defnyddwyr. Byddai hyn yn unol ag egwyddorion y gyfraith ac yn gymhelliant i sefydliadau ddarparu ar unwaith ar gyfer gofynion y Safonau Iaith.”
–
Archif Awdur: Ruth Richards
Saith Seren : Ymateb Dyfodol i’r Iaith
Roedd Dyfodol i’r Iaith yn siomedig iawn o glywed y bydd Saith Seren yn cau mis nesaf. Bu’r fenter yn trefnu a hybu gweithgareddau a gigs cyfrwng Cymraeg yn nhref Wrecsam ers 2012.
Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn y bod Canolfannau Cymraeg o’r math yn gyfrwng delfrydol a difyr i hybu defnydd o’r iaith. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu a chodi hyder yn y Gymraeg mewn ardaloedd, megis Wrecsam, lle mae’r cyfleoedd i’w defnyddio fel cyfrwng naturiol yn gallu bod yn gymharol brin.
Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:
“Mae’n drueni mawr bod angen i Saith Seren gau.
Mae sefydlu Canolfannau Cymraeg yn rhan bwysig o gael y Gymraeg yn iaith fyw mewn mannau llai dwys eu Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr egwyddor yma, ac wedi dechrau cyfrannu at sefydlu Canolfannau Cymraeg. Tra bo hyn i’w groesawu, mae angen creu cynllun cadarn ar gyfer datblygu Canolfannau Cymraeg ledled y wlad.
Mae’r cant a mwy o Ganolfannau Iaith yng Ngwlad y Basgiaid yn esiampl i’w dilyn. Mae’r rhain yn cael eu cefnogi gan lywodraeth ganol a lleol, a chan sefydliadau dysgu’r iaith i oedolion.”
Ymgynghoriad Cynllun Adnau (Cynllun Datblygu Lleol) Gwynedd a Môn
Gweler isod sylwadau ar y cyd; Dyfodol i’r Iaith, Cylch yr Iaith, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Cynllun Adnau – ‘Sylwadau ar y Cynllun Adnau o ran effaith ar y Gymraeg’