DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU MWY O GANOLFANNAU IAITH

Rhoddodd Dyfodol i’r Iaith groeso cynnes i ddatganiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd £1.5 miliwn ar gael i sefydlu canolfannau Cymraeg ledled Cymru.

Ariannir prosiectau ym Môn, Caerdydd, Tregaron, Bangor, Aberteifi a Phontardawe.

Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn y bod canolfannau o’r math yn allweddol bwysig i adnewyddiad y Gymraeg. Dengys llwyddiant y canolfannau a sefydlwyd eisoes eu bod yn fodd i greu rhwydweithiau arloesol, anffurfiol a hwyliog i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Ein gobaith yw gweld canolfannau’n cael eu sefydlu ledled y wlad, yn bwerdai i’r iaith. Daw y datganiad hwn â ni gam ymlaen at wireddu ein gweledigaeth. Gobeithiwn yn ogystal y bydd yn gam cyntaf tuag at strategaeth newydd ac ehangach i ddysgu Cymraeg i oedolion.”

Popeth Cymraeg yn Esiampl i Gymru

Mae angen rhwydwaith o ganolfannau dysgu Cymraeg i oedolion tebyg i rai Popeth Cymraeg.  Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith, wrth i newidiadau yn nhrefn cyllido Cymraeg i Oedolion gael ei sefydlu. Mae Popeth Cymraeg wedi sefydlu canolfannau dysgu yn Ninbych, Llanrwst, Prestatyn a Bae Colwyn.

“Mae cael rhwydwaith o ganolfannau cymdeithasu a dysgu Cymraeg yn allweddol i roi cyfleoedd siarad ac i ddod â siaradwyr, dysgwyr a phobl ifanc at ei gilydd,” medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Ychwanegodd, “Mae Ioan Talfryn a’i swyddogion wedi dangos dewrder a menter wrth sefydlu eu canolfannau.  Maen nhw wedi cael cefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych a’r Loteri Genedlaethol.  Maen nhw’n cynnig model ardderchog i’w efelychu ledled Cymru.”

Meddai, “Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd trefn newydd cyllido Cymraeg i Oedolion yn dal i roi’r un gefnogaeth i’r canolfannau hyn ag yn y gorffennol, gan gynnig patrwm o gydweithio creadigol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £1.25 miliwn i sefydlu canolfannau i hyrwyddo’r Gymraeg, ac mae datblygiadau ar y gweill yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Wrecsam.

Meddai Mr Gruffudd, “Rydyn ni’n gobeithio hefyd y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda sefydliad Popeth Cymraeg, a gyda chanolfannau eraill sydd eisoes yn bod, fel Saith Seren Wrecsam, fel bod cydlynu call yn digwydd rhwng Llywodraeth ganol, Cymraeg i Oedolion, a’r canolfannau Cymraeg unigol.”

 

BUDDUGOLIAETH FAWR I DYFODOL AR Y BIL CYNLLUNIO

Ar ôl dwy flynedd o lobio dygn ar roi lle i’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio, mae ymdrechion Dyfodol i’r Iaith wedi dwyn ffrwyth.  Mae’r Gymraeg bellach yn rhan o’r Mesur Cynllunio, ac yn ystyriaeth ar sail cyfraith, a fydd yn gallu trawsnewid y modd y caiff cynlluniau tai eu trin gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Enillwyd hyn trwy drafod ac argyhoeddi.

Cychwynnodd Dyfodol i’r Iaith lobio yn sgil gwendid y rheolau TAN20 oedd yn rhoi peth hawl i awdurdodau lleol ystyried y Gymraeg.  Dilynwyd hyn gan TAN20 oedd ychydig yn gryfach, ond heb roi sail gyfreithiol gadarn i ystyried y Gymraeg.

Cyfarfu Dyfodol i’r Iaith dair gwaith â Carwyn Jones, y Prif Weinidog, a hefyd sawl gwaith â swyddogion cynllunio’r Llywodraeth.  Cynhaliwyd cyflwyniad ar y mater yn y senedd i argyhoeddi aelodau cynulliad o bob plaid a chysylltwyd ag Aelodau Cynulliad o bob plaid.

Llwyddwyd i argyhoeddi’r gwleidyddion o’r angen am gael y Gymraeg yn rhan o’r Bil.  Roedd tystiolaeth Meirion Davies, aelod o fwrdd Dyfodol i’r Iaith, ar effaith y drefn bresennol o gynllunio tai, yn gyfraniad o bwys.  Yn dilyn hyn  bu trafodaeth fanwl ar eiriad a fyddai’n bodloni. Yn ystod y camau hyn a’r rhai blaenorol, roedd cymorth Emyr Lewis i’r gwleidyddion yn allweddol.  Llwyddwyd i gael geiriad i welliant i’r Bil a oedd yn glir ac yn syml.

Wrth i Ddyfodol yr Iaith arwain y ddadl gyhoeddus, a bod yn barod i drafod â gwleidyddion a swyddogion, cafwyd bod drysau ar agor heb fod angen eu gwthio.  Mae sawl cam arall yn weddill, ond am y tro mae modd i ni ymfalchïo ein bod wedi dwyn un maen i’r mur.