CYFARFOD CYHOEDDUS: CREU DYFODOL I’R GYMRAEG

Mae Dyfodol ar daith … Byddwn y cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus hyd a lled Cymru i rannu gweledigaeth ein maniffesto, Creu Dyfodol i’r Gymraeg. Bydd yn gyfle i chwi holi, trafod ac efallai ymaelodi â ni.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf yn Y Bala ar nos Lun Chwefror 22 am 7.30 yn Ystafell Tom Ellis, Canolfan Henblas, Y Bala.

Os na allwch ymuno â ni yn y Bala, cofiwch y byddwn yn cyhoeddi cyfarfodydd pellach mewn gwahanol ardaloedd maes o law.

Dewch draw am drafodaeth fywiog, a cofiwch rannu’r neges gyda’ch teulu a’ch cyfeillion

Poster Cyfarfod Y Bala

LLYTHYR MANIFFESTO: CYSYLLTWCH A’R YMGEISWYR

Gydag etholiad y Cynulliad o’n blaenau, bydd dechrau 2016 yn amser prysur o safbwynt lobio, ac mae’n bwysig ein bod yn pwyso neges ein Maniffesto ar y pleidiau a’u hymgeiswyr. Byddai’n wych pe bae ein haelodau a’n cefnogwyr yn gallu cysylltu â’u hymgeiswyr lleol gyda’r prif negeseuon o safbwynt y Gymraeg, a mawr obeithiwn y byddwch yn manteisio ar y cyfle.

Gweler isod patrwm o lythyr sy’n crynhoi’r prif flaenoriaethau i chwi ei ddefnyddio a’i addasu …

 

Annwyl …

Wrth i’r ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r Cynulliad gynyddu dros y misoedd nesaf, ysgrifennaf atoch fel aelod o’r grŵp lobio, Dyfodol i’r Iaith i amlinellu’r hyn a gredaf yw’r blaenoriaethau ar gyfer sefydlu sylfaen gadarn i’r Gymraeg dros y pum mlynedd nesaf.

Credaf fod angen newid cyfeiriad polisi sylfaenol mewn perthynas â’r iaith. Bod angen symud o fynnu ar statws a hawliau’r Gymraeg i gynyddu niferoedd siaradwyr a chreu cyfleoedd ymarferol i ddysgwyr a’r sawl sy’n rhugl gael ei defnyddio’n rhwydd yn ein bywydau dydd-i-ddydd. Byddai hyn yn cynnwys ei defnydd ar yr aelwyd, yn y gwaith, ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Yn ogystal â gwarchod hawliau ieithyddol wrth gysylltu â chyrff swyddogol, mae angen rhoi sylw iddi fel cyfrwng naturiol ac anffurfiol. Trin yr iaith yn gadarnhaol, drwy hyrwyddo’n hytrach na’i gorfodi. Teimlaf yn gryf mai drwy feithrin hyder a phleser yn y Gymraeg mae sicrhau ei chynnydd.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen sylw penodol ar rai meysydd a byddwn yn galw am wyth cam allweddol i wneud gwir wahaniaeth i ddyfodol y Gymraeg:

  1. Cynyddu Addysg Gymraeg, gan osod nod o gael 50% o blant 7 oed mewn Addysg Gymraeg erbyn 2030
  2. Datblygu cynlluniau Cymraeg i Oedolion, gyda’r pwyslais ar ddatblygu’r gweithlu a chefnogi rhieni
  3. Sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg ledled Cymru i gydweithio, cydgysylltu a sbarduno gweithgareddau Cymraeg
  4. Hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg llafar, wyneb yn wyneb i gwsmeriaid y sector gyhoeddus a phreifat, yn enwedig mewn siopau a mannau cymdeithasu
  5. Datblygu gweithleoedd Cymraeg mewn gweinyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus ac ym myd busnes
  6. Penodi Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol, lle byddai’r Gymraeg yn ystyriaeth hanfodol mewn polisi cynllunio a chartrefu
  7. Sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C a’r cyfryngau torfol a chymdeithasol Cymraeg, gan gynnwys darparu ail sianel radio
  8. Sefydlu Gweinyddiaeth i’r Gymraeg, gydag arbenigedd digonol, o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn:
  • Llunio strategaeth gynhwysfawr a chyson
  • Rhoi gweithredu’r strategaeth yng ngofal Asiantaeth Iaith hyd-braich â’r rhyddid i arloesi a sbarduno.

Gwyddom fod y camau hyn yn effeithiol. Mae’r argymhellion uchod yn seiliedig ar yr hyn a weithredwyd yng Ngwlad y Basgiaid, lle gwelwyd cynnydd o bron i 200,000 o siaradwyr dros gyfnod o ugain mlynedd.

Yn amlwg, bydd angen blaenoriaeth ddyledus a chyllid digonol i gyflawni hyn oll, a byddwn yn galw am wrthdroi’r toriadau diweddar a amlinellwyd i gyllid y Gymraeg.

Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd i chwi ystyried y camau hyn, a byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau arnynt,

 

Yn Ddiffuant

 

LLYTHYR CADEIRYDD DYFODOL AR DORIADAU I’R GYMRAEG

Gweler isod lythyr Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol ar doriadau i’r Gymraeg. Anfonwyd copi at Y Cymro a Golwg. Anfonwyd at bod Aelod Cynulliad yn ogystal, gan ofyn am eu sylwadau a’u cefnogaeth

Annwyl Olygydd,

Fe dynnodd Dyfodol i’r Iaith sylw at y ffaith fod cyllid y Llywodraeth Cymru’n codi bob blwyddyn tan 2019/20 a bod dim sail ariannol, felly, dros dorri arian i’r Gymraeg gan 6%.   Gwirionedd yw hyn ond mae’r Llywodraeth yn ceisio’i liwio a’i guddio.

Fe ddywedodd llefarydd y Llywodraeth fod ‘honiadau Dyfodol i’r Iaith yn gamarweinol’ ac nad ydynt ‘yn adlewyrchu realiti’r sefyllfa ariannol’.

Pwy sy’n twyllo pwy tybed? Dyma’r arian a gaiff Llywodraeth Cymru yn y setliad ariannol o Lundain, fesul blwyddyn:

2015-6             £14.38 biliwn

2016-7             £14.56 biliwn

2017-8             £14.67 biliwn

2018-19           14.77 biliwn

2019-20           14.93 biliwn

Erbyn 2019-20, bydd y Llywodraeth yn derbyn hanner biliwn o bunnoedd yn ychwanegol.  Mae hyn yn gynnydd o ryw 4%.  Mae’r Llywodraeth yn dweud, fodd bynnag, fod yr arian a gaiff ‘yn parhau i grebachu mewn termau real’, sef gwerth yr arian ar ôl chwyddiant.

Pe bai’r Llywodraeth yn dal i roi’r un swm i’r Gymraeg, byddai’r ‘gwerth real’ yn lleihau, felly, yn ôl y raddfa chwyddiant. Ond trwy dorri’r arian i’r Gymraeg, mae’r Gymraeg yn dioddef ddwywaith – yr arian go iawn yn eich llaw – toriad o 6% –  a gwerth yr arian ar ôl chwyddiant.

Dim ond un rheswm sy’n esbonio’r toriadau i’r Gymraeg, sef bod y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth isel iddi.

Mae hyn yn dilyn sawl ergyd i’r iaith a’i siaradwyr:

  • Toriadau i S4C a bygythiadau pellach
  • Methiant y Llywodraeth i sicrhau twf addysg Gymraeg
  • Toriadau’r Llywodraeth i arian Cymraeg i Oedolion
  • Toriad o 10% i gyhoeddi Cymraeg

Mae Dyfodol i’r Iaith yn ddigon parod i ganmol y Llywodraeth pan mae’n haeddu.  Mae unrhyw arian i’r Gymraeg yn talu ar ei ganfed – o ran swyddi a denu gwirfoddolwyr, cynnal diwylliant  a chreu amodau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Erbyn hyn mae angen gweledigaeth glir ar sut mae cynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, a chynyddu’r defnydd o’r iaith. Mae’r Llywodraeth yn honni  ei bod yn ‘rhoi blaenoriaeth i bob gweithgarwch sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg’.  Ond does dim un wlad arall wedi gweld cynnydd ieithyddol trwy dorri arian i’w hiaith. Oes gan ein Llywodraeth ni gyfrinach yn hyn o beth?

Mae onestrwydd wrth drafod y toriadau i’r Gymraeg yn gam cyntaf i drafodaeth greadigol.

Yn gywir

Heini Gruffudd

Cadeirydd, Dyfodol i’r Iaith