LLYWODRAETH NEWYDD: DYFODOL YN EDRYCH YMLAEN AT Y PUM MLYNEDD NESAF

Gyda Llywodraeth newydd wedi ei hethol, bydd Dyfodol i’r Iaith yn parhau i weithio er mwyn sicrhau lle canolog i’r iaith ar draws yr holl feysydd polisi. Gyda phennod newydd ar fin cychwyn, bydd y mudiad yn anelu tuag at atgyfnerthu llwyddiannau’r gorffennol, a thorri tir newydd.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r Llywodraeth newydd er mwyn rhoi blaenoriaeth i weithredu cadarnhaol o blaid y Gymraeg.”

Ceir cyfle i glywed a holi mwy am raglen y mudiad dros y pum mlynedd nesaf yng nghyfarfod cyhoeddus nesaf Dyfodol. Cynhelir y cyfarfod am 7 o’r gloch, nos Fawrth Mai 10 yn Nhŷ Tawe, Abertawe, ac estynnir croeso cynnes i bawb.

 

CYFARFOD CYHOEDDUS DYFODOL I’R IAITH: CYFLE I GYNLLUNIO DROS YR IAITH YN SGIL CANLYNIADAU ETHOLIADAU’R CYNULLIAD

Yn dilyn canlyniadau etholiadau’r Cynulliad nos Iau a bore Gwener, bydd Dyfodol i’r Iaith yn craffu a dadansoddi’r cyfleoedd i’r Gymraeg a ddaw yn sgil y Llywodraeth newydd. Bydd cyfle i bawb rannu’r casgliadau a chyfrannu at y drafodaeth mewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhelir yn Abertawe nos Fawrth nesaf. Awduron maniffesto’r mudiad, Creu Dyfodol i’r Gymraeg, Cynog Dafis a Heini Gruffudd fydd y siaradwyr, gydag aelod arall o Fwrdd Dyfodol, Emyr Lewis yn cadeirio.

Ers rhai misoedd, bu Dyfodol i’r Iaith yn trafod eu maniffesto gyda’r gwleidyddion wrth iddynt baratoi ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ar Fai 5ed.

Dywedodd Heini Gruffudd, “ Bydd hwn yn gyfle gwych i gael rhannu a thrafod ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau yng ngoleuni’r canlyniadau. Edrychwn ymlaen at gyfarfod bywiog, ac at sefydlu ein rhaglen am y pum mlynedd nesaf. Mae’n amser allweddol i’r Gymraeg, a gobeithiwn y daw llawer atom ni i ymuno â’r drafodaeth.”

Cynhelir y cyfarfod am 7 o’r gloch, nos Fawrth Mai 10 yn Nhŷ Tawe, Abertawe, ac estynnir croeso cynnes i bawb.