DYFODOL YN GALW AM WARCHOD CYRSIAU TGAU CYFRWNG CYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar y Llywodraeth i fynnu fod Cymwysterau Cymru yn sicrhau bod pob pwnc sydd ar gael trwy’r Saesneg yn ysgolion Cymru hefyd ar gael trwy’r Gymraeg.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhyfeddu bod Cymwysterau Cymru, corff rheoleiddio cymwysterau Cymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, heb sicrhau bod Seicoleg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Medd Eifion Lloyd Jones, “Mae ystyried y Gymraeg yn ganolog i ddyletswyddau Cymwysterau Cymru.  Dylen nhw, o wybod bod prif gorff arholi Cymru (CBAC) yn dileu Seicoleg fel pwnc, sicrhau bod y pwnc yn cael ei gynnig gan ddarparwr arall.”

“Os na wneir hyn ar fyrder, yna bydd Seicoleg yn ymuno gydag Economeg fel pwnc fydd yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Saesneg yn unig yng Nghymru’r flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Eifion Lloyd Jones, “Gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi nifer o ddarlithwyr newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i addysgu’r pynciau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n gwbl hurt bod Cymwysterau Cymru’n mynd ati i sicrhau na fydd myfyrwyr bellach ar eu cyfer.

 

“Mae hyn niweidiol iawn i ddatblygiad y Gymraeg mewn addysg uwchradd ac uwch.  Byddwn yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i fynnu fod Cymwysterau Cymru’n trin y Gymraeg o leiaf mor ffafriol â’r Saesneg, a byddwn hefyd yn apelio ar CBAC i adfer y pynciau y mae am beidio â’u darparu.”

 

DYFODOL YN GALW AM WRTHDROI CYFARWYDDYD YR AROLYGYDD CYNLLUNIO I WANHAU CYMAL IAITH

Mae Dyfodol I’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i gyfarwyddyd yr Arolygydd Cynllunio ar ran Llywodraeth Cymru i wanhau cymal iaith yng Nghynlluniau Datblygu Lleol, Awdurdodau Lleol Gwynedd a Môn.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’r cyfarwyddyd hwn yn un anghyfrifol o niweidiol i’r Gymraeg, yn enwedig o ystyried cyd-destun Strategaeth y Gymraeg, sydd â’r nod o gryfhau’r Gymraeg yn iaith gymunedol.

“Tra bo gan y Llywodraeth nod uchelgeisiol o greu miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn 2050, a hithau hefyd am weld y Gymraeg yn iaith gymunedol fyw, mae cyfarwyddyd yr Arolygydd Cynllunio yn gywilyddus. Ni ddylai amodau barnu effaith ieithyddol cynlluniau tai newydd gael eu gwanhau mewn unrhyw fodd.

“Os yw’r Llywodraeth o ddifri ynglŷn â’i hamcanion ieithyddol, mae’n rhaid iddynt dderbyn rôl allweddol y gyfundrefn Cynllunio wrth baratoi strategaeth hirdymor fyddai’n caniatáu ffyniant i’r Gymraeg.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg i :

– Wrthdroi cyfarwyddyd  yr Arolygydd Cynllunio

– Sicrhau bod y Gymraeg yn ffactor hanfodol ym mhob cais cynllunio ac yn y Cynlluniau Datblygu Lleol [yn unol â’r Mesur cynllunio 2015]

-Sefydlu Arolygaeth Gynllunio ar wahân i Gymru ar fyrder.

DYFODOL YN GALW AM YMCHWILIAD BRYS I YMRWYMIAD AWDURDODAU ADDYSG I DDATBLYGU YSGOLION GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw ar Weinidog y Gymraeg i ymchwilio ar fyrder i ddiffyg ymrwymiad rhai awdurdodau lleol i wella a datblygu ysgolion Cymraeg o fewn eu siroedd. Daw’r galw hwn yn sgil ymateb a gafwyd gan Swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg i ymholiad Dyfodol ynglŷn â dyraniad cyllid Ysgolion y 21ain Ganrif i ysgolion Cymraeg fesul sir.

Yn ôl Swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg, mae chwech o siroedd, sef Blaenau Gwent, Fflint, Merthyr Tudful, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam, i gyd wedi dewis dyrannu 5% neu lai o’r cyllid ar ysgolion Cymraeg.

Gyda’i gilydd gwariodd y siroedd hyn £286,750,000.00 – mwy na chwarter biliwn o bunnoedd – ar fuddsoddi mewn ysgolion, ond dim ond £2,726,636 ar ysgolion Gymraeg.  Gwariodd y Rhondda Cynon Taf £159,291,853 ar ysgolion Saesneg a dim ond £798,147 ar ysgolion Cymraeg.

Ni wariodd Blaenau Gwent, Fflint a Merthyr Tudful ddim ar ysgolion Cymraeg ond gwarion nhw £103,450,000 ar ysgolion Saesneg.

Gan mai’r awdurdodau eu hunain sydd yn pennu’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn, mae’n hynod arwyddocaol bod y 6 awdurdod yn gwario dim, neu’n agos i ddim, o’r arian ar addysg Gymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’r ffigyrau hyn yn adlewyrchiad truenus o’r diffyg ymrwymiad sy’n bodoli mewn rhai ardaloedd tuag at ffyniant y Gymraeg. O’r cychwyn, rydym ni fel mudiad wedi bod yn feirniadol o Gynlluniau’r Gymraeg mewn Addysg, a hynny o safbwynt ansawdd rhai o’r Cynlluniau unigol, a’r awydd gwleidyddol i arwain ar eu datblygiad.

Gyda Strategaeth y Gymraeg yn anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae pawb yn gytûn na ellir gobeithio cyrraedd y nod heb ymrwymiad cadarn i ddatblygu addysg Gymraeg. Mae’r sefyllfa bresennol yn golygu fod yr holl waith dan fygythiad enbyd o’r cychwyn.

Rydym yn galw ar y Gweinidog fynd i’r afael â’r sefyllfa ar fyrder, a chynnal ymchwiliad llawn a manwl i fethiant yr awdurdodau hyn i gyfrannu at weledigaeth y Llywodraeth.”

Er gwybodaeth:

Trwy Gymru gyfan gwariwyd £1,497,726,000 ar ysgolion.

Roedd £441,405,602 (29.5%) ar ysgolion Cymraeg.

Y ffigurau am y chwe sir:

Blaenau Gwent                Gwariant: £20,500,000   Ar ysgolion Cymraeg: £0 = 0%

Fflint                                    Gwariant: £64,200,000  Ar ysgolion Cymraeg: £0 = 0%

Merthyr Tudful                  Gwariant: £19,000,000  Ar ysgolion Cymraeg £0 = 0%

Mynwy                                Gwariant: £93,400,00   Ar ysgolion Cymraeg £1,000,000 = 1%

Rhondda Cynon Taf         Gwariant: £160,000,000  Ar ysgolion Cymraeg: £708,147 = 0.5%

Wrecsam                            Gwariant: £22,300,000  Ar ysgolion Cymraeg: £1,018,489 = 5%