MILIWN O SIARADWYR? – O DDIFRI’? CYFARFOD CYHOEDDUS DYFODOL I’R IAITH YR EGIN, CAERFYRDDIN MAI 25ain

Fel y gwyddom ni gyd bellach, mae’r Llywodraeth wedi gosod targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond beth yn hollol yw’r strategaeth er mwyn cyrraedd y nod uchelgeisiol hwn? Beth sydd angen ei wneud nawr er mwyn gosod sylfaen gadarn i’r gwaith?

Ers diddymu Bil y Gymraeg, sef y cynllun gwreiddiol ar gyfer cyrraedd y targed, pa strwythurau fydd angen eu sefydlu er mwyn cyrraedd y targed? Fedrwn ni mewn difrif ddisgwyl twf yn nefnydd y Gymraeg heb newidiadau syfaenol i’r drefn a’r meddylfryd bresennol?

Credai’r mudiad Dyfodol i’r Iaith fod cwestiynau hyn yn allweddol i ffyniant y Gymraeg, a bydd y cyfarfod cyhoeddus hwn yn gyfle gwych i holi barn ein gwleidyddion ar sut orau i fwrw ymlaen â’r gwaith hanfodol hwn.

Bydd y panel trafod yn cynnwys Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price dan gadeiryddiaeth y Prifardd, Mererid Hopwood. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac estynnir croeso cynnes i bawb. Felly os ydych yn angerddol neu’n bryderus dros ddyfodol y Gymraeg, galwch draw i’r Egin fore Sadwrn Mai 25ain rhwng 11.00 a 12.30; edrychwn ymlaen at gwrdd â chwi!

 

 

DYFODOL YN BEIRNIADU CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD AC YN GALW AM GYMREIGIO’R GWEITHLE

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i hysbyseb Cartrefi Cymunedol Gwynedd am Ddirprwy Brif Weithredwr sydd ddim yn cynnwys unrhyw ofyniad i allu’r Gymraeg. Yn wir, yr unig gyfeiriad at yr iaith yn y fanyleb person yw’r angen am, “Ddirnadaeth o’r iaith Gymraeg a diwylliant Gogledd Cymru.”

Dywedodd Eifion Lloyd Jones ar ran y mudiad:

“Mewn ardal ble mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg, a mwyafrif llethol staff Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn ei defnyddio fel cyfrwng gwaith, credwn fod y penderfyniad hwn nid yn unig yn un cwbl annerbyniol, ond yn un anymarferol yn ogystal.”

“Afraid dweud y bod hwn yn gosod cynsail beryglus iawn. Yng nghyd-destun yr amcan i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, dylwn anelu ar Gymreigio’r gweithle a chefnogi’r Gymraeg ymysg y gweithlu. Nid oes hyd yn oed amod i ddysgu’r iaith ynghlwm a’r hysbyseb hwn.”

“Byddwn yn galw ar Gartrefi Cymunedol Gwynedd i ail-ystyried eu proses recriwtio, ac ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y gweithle fel maes allweddol i hyrwyddo twf y Gymraeg.”

 

 

 

 

DYFODOL YN GALW AM AMDDIFFYN Y GYMRAEG FEL PWNC ACADEMAIDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi gofid ynglŷn â dibrisio gwerth y Gymraeg fel pwnc academaidd ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd.

Yn sgil pwysau i gyflwyno arbedion, daeth cynigion i gyfuno Ysgol y Gymraeg yng Nghaerdydd gydag adrannau ieithoedd eraill, ac ym Mangor i gwtogi staff ar lefel Athro. Mae Dyfodol wedi cysylltu ag Is-Gangellorion y ddau sefydliad i bwyso arnynt wyrdroi’r cynigion, a hynny’n enw statws y Gymraeg fel pwnc a chyfrwng cenedlaethol.

Dywed Eifion Lloyd-Jones o’r mudiad; “Mae’r cynigion byrdymor hyn yn anfon neges hirdymor niweidiol mewn perthynas ag ymrwymiad hanesyddol y sefydliadau i’r iaith Gymraeg.”

“Rhaid gwarchod annibyniaeth ac arbenigrwydd y Gymraeg fel pwnc academaidd ym Mhrifysgolion y genedl, gan ystyried yr un pryd arwyddocâd y fath fygythiadau i statws a gwerth y Gymraeg ar lefel ehangach – fel cyfrwng cenedlaethol creadigol a chymunedol.”

“Rydym yn pwyso ar y sefydliadau allweddol hyn i gydnabod ac ymgymryd â’u rôl i gyfrannu at ffyniant y Gymraeg.”