Sefydliad Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion

Mae angen creu Sefydliad cenedlaethol i drefnu holl faes dysgu Cymraeg i Oedolion. Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith mewn cyflwyniad i’r grŵp sy’n adolygu’r ddarpariaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y maes yn cael ei redeg gan sefydliad cenedlaethol a fydd yn cyflogi arbenigwyr.  Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosibl gosod safonau a thargedau newydd.

Bydd hyn yn cynnwys cynnig cyrsiau 1,200 o oriau a rhyddhau pobl o’u gwaith.  Y nod yw targedu rhieni a fydd maes o law yn newid iaith eu cartref i’r Gymraeg, a gweithwyr sy’n delio â’r cyhoedd.

Cyfarfod Cyffredinol Dyfodol

Daeth dros drigain o aelodau a chefnogwyr ynghyd yn Aberystwyth  ar yr 20fed o Hydref  ar gyfer cyfarfod cyffredinol mudiad iaith Dyfodol. Fe etholwyd Bethan Jones Parry yn ddiwrthwynebiad yn Llywydd cyntaf y mudiad.

Yn ogystal etholwyd deg o gyfarwyddwyr i’r mudiad fydd yn gweithredu fel pwyllgor gwaith. Y deg yw: Heini Gruffudd, Simon Brooks,  Elin Walker Jones, Elin Wyn, Emyr Lewis, Eifion Lloyd Jones, Meirion LLywelyn, Richard Wyn Jones, Huw Ll. Edwards ac Angharad Mair. Heini Gruffudd fydd cadeirydd y Bwrdd.

Fe gytunwyd hefyd y bydd Myrddin ap Dafydd, Cynog Dafis, Angharad Dafis a Robat Gruffudd yn aelodau craidd y mudiad. Ni fydd modd i’r mudiad newid ei amcan o weithredu er lles y Gymraeg heb cydsyniad yr aelodau craidd.

Siaradwyr – Cyfarfod Cyffredinol

Fe fydd cyfarfod cyffredinol cyntaf Dyfodol yn cael ei gynnal ar yr 20fed o Hydref yn Aberystwyth.

Cadeirydd y cyfarfod fydd Angharad Mair ac ymhlith y siaradwyr bydd yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd a Kathryn Jones o Gwmni Iaith fydd yn trafod sefyllfa’r Gymraeg heddiw.

Fe fydd trafodaeth hefyd gydag  Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth, Rebecca Williams (UCAC) a Llyr Roberts, (Positif) ar beth yn union yw lobio yng Nghymru heddiw.

Fe fydd cyfle hefyd i aelodau gyfrannu i drafodaeth eang ar raglen waith y mudiad.

Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth i ddechrau am 11am ar yr 20fed o Hydref. Fe ddarperir cinio am bris rhesymol.