Neges Calan gan ein Cadeirydd, Heini Gruffudd

Yr adeg yma y llynedd doedd dim son o gwbl am fudiad Dyfodol i’r Iaith. Bryd hynny roedd Bwrdd yr Iaith yn dal i fodoli gyda chwta tri mis i fynd cyn byddai ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo i’r Llywodraeth ac i ofal Comisiynydd y Gymraeg.

Ond roedd yna nifer yn teimlo bod angen gwneud rhywbeth amgenach o ran hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg. Mae Cymru wedi newid ers sefydlu’r Cynulliad Cendlaethol yn 1999 ac roedd cyfle bellach i ddylanwadu yn uniongyrchol er mwyn creu deddfau a pholisiau fyddai’n hyrwyddo’r Gymraeg. Parhau i ddarllen

Ymateb i’r Cyfrifiad

ANGEN GWEITHREDU CADARNHAOL

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn profi’r angen am weithredu cadarnhaol o blaid y Gymraeg.  Dyna neges Dyfodol i’r Iaith ar ddiwrnod cyhoeddi’r canlyniadau.

Mae gweithredu cadarnhaol  yn ôl natur ieithyddol y gwahanol ardaloedd yn awr yn dod yn hanfodol, yn ôl Bethan Jones Parry, Llywydd Dyfodol i’r Iaith. Mae’r mudiad yn mynnu bod rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ddulliau o hybu’r iaith dros y deng mlynedd nesaf.