Mae Dyfodol i’r Iaith wedi deillio o’r canfyddiad fod yna chwyldro wedi digwydd yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf o ran sefydliadau gwleidyddol ac agweddau poblogaidd. Adeg traddodi ‘Tynged yr Iaith’ nid oedd yna Swyddfa Gymreig, hyd yn oed, heb sôn am ddeddfwrfa a Llywodraeth Gymreig nerthol.
Ni chafwyd er hynny chwyldro cymesur yn agweddau, trefniadaeth a dulliau y mudiad iaith. Mae’r Cymry Cymraeg yn dal i’w hystyried eu hunain yn ymylol; yn bobl heb eu sefydliadau gwladwriaethol eu hunain. Hyn er gwaetha’r ffaith na fu neb yn fwy creiddiol i’r broses o lunio’r sefydliadau cenedlaethol democrataidd na’r Gymru Gymraeg. Yn wir, eironi chwerw’r sefyllfa bresennol yw ei bod yn anodd meddwl am garfan o bwys ym mywyd Cymru sydd wedi gwneud llai o ddefnydd o’r cyfleon a grëwyd trwy sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru na chefnogwyr yr iaith. Er bod buddiannau myrdd o achosion yn cael eu cynrychioli ym Mae Caerdydd gan wahanol lobïwyr, nid oes unrhyw un yno’n gweithio’n llawn amser yn codi llais o blaid y Gymraeg.