Mudiad pwyso a lobio yw Dyfodol i’r Iaith. Dymuniad y mudiad yw gweld polisiau cadarnhaol o blaid yr iaith yn cael eu gweithredu gan y Llywodraeth a llywodraeth leol.
Dyma fudiad sy’n agored i bawb sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu. Mae gan aelodau ein Bwrdd arbenigedd ym meysydd addysg, cynllunio iaith, gwleidyddiaeth, y gyfraith, y byd academaidd a diwylliannol, darlledu, y cyfryngau a marchnata.
Rydym wedi llwyddo i ddylanwadu eisoes mewn sawl maes:
- Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
- Sefydlu ail sianel radio boblogaidd
- Cael y Gymraeg yn rhan o’r broses cynllunio tai
- Sefydlu Canolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
- Rhoi pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg yn gymunedol
Ond mae llawer o waith ar ôl i sicrhau y bydd y Gymraeg yn dal i ffynnu.
Credwn:
Bod angen polisiau sy’n rhoi lle blaenllaw i’r iaith yn y system addysg, ym myd gwaith, yn y gymdeithas a’r cartref.
Bod angen siarad gyda phob plaid wleidyddol i ddylanwadu.