Mae Dyfodol i’r Iaith am weld Radio Cymru yn gyfrwng nerthol i adfywio’r Gymraeg ledled y wlad, gan rannu’n ddau wasanaeth, Radio Pop a Radio Pawb.
Yn eu cyfraniad at Sgwrs Radio Cymru a lansiwyd gan Gyfarwyddwr y Gorfforaeth, Rhodri Talfan Davies, dywed Dyfodol i’r Iaith y dylai’r orsaf fanteisio ar ei safle unigryw yng nghalon a chartrefi’r genedl i wasanaethu iaith a diwylliant y genedl honno.
“Rydym yn gresynu fod pennaeth y BBC yn sôn yn ddilornus nad lle’r orsaf yw ‘achub iaith hynafol’, gan ein bod ni’n credu y dylai Radio Cymru wneud rhywbeth amgenach nag ‘achub’”, meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith. “Cyfrifoldeb y BBC fel gwasanaeth cyhoeddus yr ydym ni’n talu amdano yw anrhydeddu ei siarter brenhinol ei hun trwy ‘hyrwyddo addysg a dysgu, a symbylu creadigrwydd a rhagoriaeth diwylliannol’.
“Yng Nghymru, mae hynny’n golygu hyrwyddo iaith a diwylliant, ac nid ‘cynnig gwasanaeth’ sy’n adlewyrchu dirywiad yr iaith yn unig”, yn ôl Dr.Gruffudd. “Safon y cynnwys sy’n denu gwrandawyr at raglenni ym mhob iaith, ynghyd ag amrywiaeth ddeniadol yn yr arlwy beunyddiol. Ni fyddai Seisnigo bwriadol yn gwneud dim ond prysuro tranc Radio Cymru. Byddai cynnwys deniadol ac amrywiol yn arwain yn naturiol at adfywio ieithyddol, fel sy’n digwydd gyda chenhadaeth teledu iaith y Maori yn Seland Newydd ar hyn o bryd.”
Wrth ystyried y cwestiynau y mae Rhodri Talfan Davies wedi’u gofyn i gynulleidfaoedd Cymru eu hateb, ychwanegodd Heini Gruffudd y dylid eu hanelu at Radio Wales yn ogystal ag at Radio Cymru. “O gael cychwyn ieithyddol i ddysgwyr a siaradwyr dihyder ar Radio Wales, byddai modd codi hyder y rhain yn y Gymraeg, a’u cyfeirio wedyn at raglenni addas iddynt ar Radio Cymru.”
Er mwyn ehangu cenhadaeth Radio Cymru ar gyfer y dysgwyr a phobl ifanc yn arbennig, mae Dyfodol i’r Iaith am weld rhannu’r gwasanaeth ar ddwy orsaf a enwyd ganddynt yn Radio Pop a Radio Pawb. Byddai’r naill yn targedu’r ifanc a’r dysgwyr gydag arlwy o gerddoriaeth ac iaith lafar gyfoes, tra bo’r llall yn wasanaeth mwy cynhwysfawr ac amrywiol o ran newyddion, drama, adloniant a cherddoriaeth mewn iaith lafar naturiol a safonol.
Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, “Dyma gyfle i gyflawni dymuniad Rhodri Talfan Davies i ehangu apêl Radio Cymru tu hwnt i’w chynulleidfa bresennol, ond heb gythruddo a dieithrio honno”.
Nodyn i Olygyddion:
Mae Dyfodol i’r Iaith yn fudiad amhleidiol sy’n gweithredu er lles y Gymraeg. Ei nod yw dylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg.