Mae’r ymadrodd ‘datblygu cynaliadwy’ yn deillio o’r mudiad amgylcheddol. Ymgais yw i geisio sefydlu egwyddor sy’n sicrhau nad yw twf economaidd yn digwydd ar draul yr amgylchedd naturiol. Ond mae’n ymadrodd sydd hefyd wedi cael defnydd ehangach mewn cyd-destunau eraill lle ofnir bod datblygu yn digwydd ar draul rhywbeth y dymunir ei gynnal megis cyfiawnder, tegwch cymdeithasol, diwylliant – ac wrth gwrs iaith leiafrifol.
Cafodd papur gwyn Llywodraeth Cymru am fil datblygu cynaliadwy ei feirniadu’n hallt am nad oes sôn ynddo am yr iaith Gymraeg. Ac yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011, lle gwelwyd cwymp sylweddol yng nghanrannau’r nifer sy’n siarad Cymraeg yn y siroedd hynny a ystyrir yn gadarnleoedd yr iaith, cafwyd galwadau pellach i fynnu lle teilwng i’r Gymraeg yn y bil.
Felly beth yw natur ‘datblygu cynaliadwy’ yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg? Pam bod rhai elfennau o’r mudiad iaith wedi cydio yn y thema hon? Gellir cynnig dadansoddiad rhywbeth tebyg i hyn:
- peth llesol yn ei hanfod yw bod y Gymraeg yn iaith fyw gref
- er mwyn sicrhau hynny, mae angen ardaloedd a chymunedau daearyddol lle mae’r Gymraeg yn brif iaith, yn yr ystyr o fod yn iaith feunyddiol mwyafrif y trigolion, ac mae angen iddi fod cyn gryfed ag y gall fod mewn ardaloedd a chymunedau eraill yng Nghymru hefyd
- mae gostyngiad yn y niferoedd neu’r canrannau sy’n medru’r Gymraeg mewn unrhyw ardal neu gymuned yn effeithio ar ba mor gynaliadwy yw’r iaith yno
- gall polisïau neu benderfyniadau sy’n ymwneud â datblygu eiddo neu ddatblygu economaidd mewn ardal neu gymuned effeithio (yn gadarnhaol neu’n negyddol) ar y niferoedd neu’r canrannau sy’n medru’r Gymraeg yno
- mae angen sicrhau nad yw polisïau neu benderfyniadau o’r fath yn effeithio’n andwyol ar gynaliadwyedd yr iaith Gymraeg, yn enwedig yng nghadarnleoedd yr iaith.
Ystyr datblygu cynaliadwy ieithyddol, os cawn ei alw felly, yw datblygu nad yw’n peryglu sefyllfa’r iaith Gymraeg fel iaith fyw drwy ostwng y niferoedd neu’r canrannau sy’n ei siarad mewn rhyw ardal neu gymuned arbennig.
Mae’r ymadrodd ‘datblygu cynaliadwy’ eisoes yn rhan o ddeddfwriaeth Cymru. Mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gynnal Cynllun Datblygu Cynaliadwy er mwyn datgan sut y maent yn bwriadu hybu datblygu cynliadwy, ac i baratoi adroddiad blynyddol yn disgrifio sut maent wedi gwneud hynny. Dyma sut mae’r Cynllun cyfredol, Cenedl Un Blaned (2009), yn diffinio datblygu cynaliadwy:
…mae datblygu cynaliadwy yn golygu gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol:
mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal;
mewn ffyrdd sy’n gwella’r amgylchedd naturiol a diwylliannol ac yn parchu ei derfynau – gan ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear a chynnal ein hetifeddiaeth ddiwylliannol.
Mae’r diffiniad hwn, a arddelir o hyd gan Lywodraeth Cymru yn mynd tu hwnt i faterion amgylcheddol yn unig, gan gynnwys ‘lles cymdeithasol’ ac ‘etifeddiaeth ddiwylliannol’. Yn ogystal, mae’r Cynllun datblygu cynaliadwy statudol, dan y pennawd ‘Diwylliant Cyfoethog ac Amrywiol’, yn son am:
…ein nod o adfywio’r Gymraeg a chreu Cymru ddwyieithog. Rydym am roi’r cyfle i fwy o bobl ddysgu Cymraeg a helpu’r iaith i ffynnu fel iaith fyw mewn llawer o gymunedau ledled Cymru.
At hynny, mae Llywodraeth Cymru yn ei hadroddiad diweddaraf am ddatblygu cynaliadwy yn crybwyll strategaeth newydd ‘Iaith Fyw, Iaith Byw’, ac yn nodi’r amcanion pum mlynedd canlynol:
• cynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith
• rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
• cynyddu ymwybyddiaeth pobl o werth y Gymraeg, fel rhan o’n treftadaeth genedlaethol ac fel sgìl defnyddiol ar gyfer bywyd modern […]
• cryfhau sefyllfa’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau.
Felly mae cynsail. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod o ‘gryfhau sefyllfa’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau’ fel rhan o ddatblygu cynaliadwy. Drwy wneud hynny, daeth yn agos at arddel datblygu cynaliadwy ieithyddol, fel amcan o leiaf.
Er na chrybwyllir ‘mo’r iaith yn y papur gwyn ar y bil datblygu cynaliadwy, mae digon o sôn am ‘les cymdeithasol’ yn ogystal â lles economaidd ac amgylcheddol. Hefyd yn ei ragair, mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, yn cyfeirio’n benodol at ddiwylliant Cymru:
Er mwyn dewis dyfodol gwell, rhaid rhoi sylw arbennig i les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pobl a chymunedau ac atgyfnerthu ein syniad o degwch a chyfiawnder cymdeithasol a phwysigrwydd ein diwylliant cyfoethog.
O bosib, dyma ymgais i gyfyngu ystyr yr ymadrodd ‘datblygu cynaliadwy’ i’r amgylchedd, gan hepgor y materion ‘ychwanegol’ yn y diffiniad Cymreig. Pe bai’r papur gwyn yn dweud mai dyma a fwriedir, yna byddem yn glir mai ystyriaethau amgylcheddol yn unig sydd wrth wraidd y bil arfaethedig. Ond nid yw’n dweud hynny. Rhaid i ni felly gymryd y gweinidog ar ei air, a chymryd nad dyma a fwriedir, ac y bydd cynnal diwylliant (a thrwy hynny’r iaith) yn parhau’n rhan o ddatblygu cynaliadwy dan y Ddeddf newydd. Os felly, er mwyn osgoi unrhyw amwysedd yn y dyfodol, dylai hynny fod yn eglur ar wyneb y mesur.
Mewn geiriau eraill, dylid son yn benodol am gynnal y Gymraeg ar wyneb y Ddeddf, fel rhan o’r dyletswydd datblygu canaliadwy. Hynny yn unig fyddai’n gyson ag arfer Llywodraeth Cymru hyd yn hyn.