Cynhadledd – Cynaliadwyedd a’r Gymraeg

CYNHADLEDD DYFODOL – CYNALIADWYEDD A’R GYMRAEG

Dydd Gwener, Chwefror 22 rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn
Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor
Cadeirydd: Dr. Einir Young
Siaradwyr: Gareth Clubb, Cyfeillion y Ddaear
Llyr Huws Gruffydd AC
Yr Athro Gareth Wyn Jones
Meirion Llywelyn, Menter Iaith Conwy
Nod y gynhadledd yw trafod cysylltiadau rhwng yr agenda cynaliadwyedd a’r iaith Gymraeg. A ddylai fod rhagor o gydweithio rhwng ymgyrchwyr iaith ac ymgyrchwyr amgylcheddol? Oes modd dylanwadu ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, yn enwedig y Bil Datblygu Cynaliadwy a’r Bil Cynllunio, mewn modd fydd yn fuddiol i’r Gymraeg?
Er mwyn cofrestru, anfonwch nodyn at [email protected]
Fe ellid hefyd cofrestru ar y dydd.
Gellir archebu cinio ymlaen llaw. Ei gost fydd £10.
Ceir manylion o ran sut i gyrraedd Neuadd Reichel yma: http://www.bangor.ac.uk/tour/MapLleoliad.pdf
DATBLYGU CYNALIADWY A’R GYMRAEG – GAN DR EINIR YOUNG

Beth yw datblygu cynaliadwy a pha beth a wnelo’r fath destun â’r Gymraeg? Os am ddeall mwy am y pwnc astrus hwn, Cynhadledd Dyfodol ym Mangor ar 22ain o Chwefror yw’r lle i anelu ato.

Y gwir amdani yw fod gan adar a rhywogaethau prin yn aml fwy o ‘hawliau’ na phobl. Gwae’r unigolyn sy’n anwybyddu clwydi ystlumod wrth ddatblygu ond ‘eithafwr’ yw’r person sy’n meiddio crybwyll y gall stâd ychwanegol o dai gael effaith negyddol ar iaith a diwylliant lleol.

Sail gyfreithiol sydd i hawliau rhywogaethau prin. Mae Mesur y Gymraeg wedi newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio’r Gymraeg yn dechrau cryfhau’r ymwybyddiaeth o gyfrifoldeb at y Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae’r Bil Datblygu Cynaliadwy ar ei ffordd drwy’r Senedd. Yn y Papur Gwyn, cyfeirir at ‘gynnal ein hetifeddiaeth ddiwylliannol’. A fydd peidio â chyfeirio’n benodol at y Gymraeg yma yn golygu ei bod yn cael ei gweld fel diddordeb ‘niche’ i’r rhai sydd eisoes yn siarad Cymraeg yn hytrach na fel iaith fyw i’r genedl gyfan? Cred Dyfodol y dylid cyfeirio’n benodol at y Gymraeg yn y Bil a nod y gynhadledd hon yw trafod beth a ddylid ei gynnwys a sut mae mynd ati i ddylanwadu ar y broses.

Gwyddom oll mai siarad yr iaith fydd yn ei hachub ac fe fydd cyfle i drafod sut mae apelio at drwch y boblogaeth yn ogystal â’r rhai sydd ‘eisiau byw yn Gymraeg’. Prin yw’r rhai sy’n gweithredu’n unig oherwydd mai ‘dyna’r peth iawn i wneud’, rhaid adnabod a chyffwrdd hunan-fudd goleuedig unigolion. Bydd hyn o anghenraid felly yn cynnwys trafod yr heriau economaidd sy’n ein wynebu yn ogystal â chlywed profiadau o lawr gwlad ag elwa o brofiad a chyngor cyfreithiol a gwleidyddol yng nghwmni’r canlynol:

Ar ddiwedd y gynhadledd ein prif allbwn fydd drafft o ymateb ar gyfer yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn i’w gyflwyno ar ran Dyfodol erbyn y dyddiad cau ar Fawrth 4ydd 2013.

Yn ychwanegol at hyn bydd cyfle i ystyried tybed a oes perthynas rhwng y grymoedd sy’n tanseilio’r iaith, yn creu diweithdra ac yn difa bywyd gwyllt? Mewn undeb y mae nerth a byddwn yn gofyn a oes cyfle i’r rhai sy’n poeni am yr elfennau hyn gynghreirio o dan fantell datblygu cynaliadwy er bydd yr economi ac iaith Cymru yn ogystal â’r blaned.

Cefndir

Mae llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gyfreithiol i greu cynllun (cynllun datblygu cynaliadwy) sy’n nodi sut y maent yn bwriadu hyrwyddo datblygu cynaliadwy wrth ymarfer eu swyddogaethau. Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned yw’r cynllun cyfredol.

Ar Ragfyr 3ydd wedi cyfnod o ymgynghoriad mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer y Bil Datblygu Cynaliadwy, sy’n rhan allweddol o’i rhaglen ddeddfwriaethol ac a fydd yn cryfhau’r ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy. Bydd y Bil hwn yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau mai Datblygu Cynaliadwy yw eu hegwyddor drefniadol ganolog. Bwriedir sefydlu corff Datblygu Cynaliadwy annibynnol yn sgil y Bil, i ddarparu cefnogaeth ynghylch datblygu cynaliadwy er mwyn adlewyrchu buddion ac anghenion Cymru.

Bu cryn dipyn o drafod eisoes ar beth yw ystyr Datblygu Cynaliadwy gyda llawer yn ystyried naill ‘cynaliadwyedd amgylcheddol’ neu ‘gynaliadwyedd economaidd’ fel blaenoriaethau. Ar ei symlaf, ceisio cydbwysedd hir dymor rhwng amryfal anghenion pobl heb reibio’r blaned.  Yn y Papur Gwyn disgrifir datblygu cynaliadwy yng Nghymru fel a ganlyn:

Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru

Yng nghyd-destun Cymru, mae datblygu cynaliadwy yn golygu gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol:

– mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfle

cyfartal;

– mewn ffyrdd sy’n gwella’r amgylchedd naturiol a diwylliannol

ac yn parchu ei derfynau – gan ddefnyddio dim ond ein cyfran

deg o adnoddau’r ddaear a chynnal ein hetifeddiaeth

ddiwylliannol.

Datblygu cynaliadwy yw’r broses a ddefnyddiwn i gyflawni nod cynaliadwyedd

Mae’r Papur Gwyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/sdbill/?skip=1&lang=cy o dan ddolenni cysylltiedig ar yr ochr dde.

Byddai’n fuddiol petaech yn gallu ei ddarllen cyn y cyfarfod ac yn bwrw golwg dros y cwestiynau ymgynghorol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *