LLythyr Agored at Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y BBC, oddi wrth Bethan Jones Parry, Llywydd Dyfodol i’r Iaith
Annwyl Elan.
Ysgrifennaf i fynegi ein pryder mawr nad yw’r BBC wedi dod i gytundeb ag Eos, er bod wythnosau lawer o rybudd o’r sefyllfa bresennol wedi bod. Honnwn hefyd fod y BBC ar hyn o bryd yn torri amodau ei siarter, a bod dyletswydd ar Ymddiriedolwyr y BBC i gynnal y Siarter hwn.
Mae’r dirywiad amlwg yng ngwasanaeth Radio Cymru ers dechrau’r flwyddyn, ac mae arwyddion bod gwrandawyr yn troi at wasanaethau eraill. Nid yw Radio Cymru bellach yn gwasanaethu Cymru, ac nid yw’n hyrwyddo creadigedd, fel y mynnir gan y Siarter.
Byddwn yn gwerthfawrogi eich cymorth i geisio datrys yr anghydfod mewn byr o dro a hyn ar sail rhai egwyddorion sylfaenol:
- Bod gwasanaeth Cymraeg cyflawn ar gael ar y radio a’r teledu, sy’n adlewyrchu bywyd Cymru yn ei gyfanrwydd, fel y disgwylir gan y Siarter. Ni ddylai gwerth y Gymraeg a chyfraniadau trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn ddibynnol ar faint sy’n gwrando, gwylio. Heb gydnabyddiaeth deg a gwasanaeth cyflawn mae statws y Gymraeg fel iaith swyddogol yn mynd yn ddiwerth. Pen draw naturiol dadl fel hyn yw dileu Radio Cymru ac S4C waeth beth bynnag sy’n digwydd ynglŷn â’r cerddorion.
- Mae angen rhoi cydnabyddiaeth deg i artistiaid, perfformwyr a chyfranwyr sy’n gymesur â’u talent a’u gwaith, ac sy’n rhoi modd i fywyd diwylliannol Cymraeg ffynnu ar y cyfryngau. Mae hyn yn sylfaenol i fodloni un o amodau’r Siarter. Nid yw ymdrechion gwirfoddol a di-dâl nifer fawr o selogion yr iaith ar lawr gwlad yn cyfiawnhau talu’n wael am gyfrannu ar gyfryngau torfol, lle mae cyflogau a gyrfaoedd hael yn gyffredin.
Mae Siarter Brenhinol 2006 er parhad y BBC yn nodi bod y BBC yn bod i wasanaethu budd y cyhoedd. Yng nghyd-destun Cymru mae darparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn a theilwng yn ganolog i fudd y cyhoedd.
Pedwar diben cyhoeddus cyntaf y BBC yw:
(a) Cynnal dinasyddiaeth a’r gymdeithas sifil;
(b) Hyrwyddo addysg a dysgu;
(c) Symbylu creadigrwydd a rhagoriaeth ddiwylliannol;
(ch) cynrychioli’r D.U., ei chenhedloedd, ei rhanbarthau a’i chymunedau;
Mae’n amlwg bod y BBC ar hyn o bryd yn gweithredu’n groes i’r pedwar diben hwn, ac yn gweithredu, felly, yn groes i’r Siarter y mae’r Ymddiriedolwyr yn rhwym o’i gynnal.
Gofynnwn i chi ddefnyddio’ch dylanwad i sicrhau bod y BBC yn cadw at delerau ei Siarter, ac yn ailgyflwyno gwasanaeth cyflawn yn y Gymraeg. Rhan annatod o hyn yw rhoi cydnabyddiaeth deg i berfformwyr.
Yn ddiffuant.
Bethan Jones Parry
Llywydd
Dyfodol i’r Iaith