Diolch i bawb am ddod yma heddiw, naill ai i gefnogi neu o chwilfrydedd. Mae’n werth pwysleisio mai rhyw fath o gyflwr lled-rithiol sy gan Dyfodol i’r Iaith ar hyn o bryd. Mae’r syniad wedi bod yno ers blwyddyn neu ragor. Mae rhai wedi mentro dod at ei gilydd i roi ffurf i’r syniad, ac yn y lle cynta, fy rôl i oedd gwneud coffi. Does dim uchelgais gan neb sydd wrthi ar hyn o bryd i wneud mwy na gwneud coffi. Ar ôl y cyfarfod hwn, ac ar ôl cael cefnogwyr at ei gilydd, y gobaith yw cynnal cyfarfod cyffredinol ym mis Hydref i lansio Dyfodol i’r Iaith yn fudiad cyflawn. Wedyn galla i fynd yn ôl i wneud coffi.
Ond tair stori fach yn y cyfamser.
Ro’n i’n dioddef yn enbyd o’r ddanodd, ddiwrnod cyn mynd ag aelodau fy nosbarthiadau llenyddol am daith i Wlad Pwyl. Roedd yn ddydd Sadwrn, a Dewi Dant, fy neintydd wedi cau. Doedd dim amdani, am chwech y bore, mewn poen mawr, ond ffonio’r Gwasanaeth Iechyd. Gwasgu botwm 2 i gael y Gymraeg. Atebodd Saesneg. “All our Welsh speakers are busy”. Ond ces i gyngor, “take asprin and ibubrofen bob yn ail … and brush your teeth.” Des i o hyd i ddeintydd caredig yn y Mwmbwls, diolch byth.
Wedyn des i oed pensiwn a chael y gwasanaeth pensiwn yn barod iawn i anfon ffurflenni Cymraeg ata i. Daeth y ffurflen gyntaf. Yn anffodus do’n i ddim yn deall llawer ohono:
Yr arian a delir i chi i ddiogelu, yn erbyn chwyddiant, swm unrhyw daliadau ychwanegol didyniadau eithrio a gewch gyda chynllun pensiwn cyflogwr neu eich cynllun pensiwn personol – £NIL
Deall y ‘nil’ yn iawn.
Ffoniais i nhw a chael Cymraes braf iawn yn fy nghynghori, “Peidiwch poeni, does dim rhaid i chi wneud dim.”
Hanes fy nhad, druan yw’r drydedd stori. Pan gyrhaeddais yr ysbyty i’w weld, roedd y nyrsus mewn penbleth. Roedd e wedi bod yn siarad Cymraeg â’r nyrsus, a dim un ohonyn nhw’n deall Cymraeg. Doedd e ddim yn ateb eu holi Saesneg, er carediced oedden nhw. A minnau yno, dyma nhw’n llwyddo i ddod o hyd i’r unig un oedd yn siarad Cymraeg, a meddyg oedd hwnnw. Daeth e, yn ei siwt ddu barchus. “Thank you so much for coming, doctor,” meddai ‘nhad yn ei acen Rydychen orau.
Mae’r tair stori’n rhoi awgrym i chi o wahanol ffyrdd y mae’r cyfundrefnau sy gennym ar hyn o bryd yn cam-drin y Gymraeg. Ond dw i ddim am fynd ar ôl y rhain. Rwy ond yn gobeithio y bydd safonau’r Comisiynydd Iaith yn gallu cyfrannu ryw gymaint – ymhen ryw bum mlynedd efallai – i wella’r sefyllfaoedd hyn.
Ond gwaetha’r modd fydd safonau’r Comisiynydd ddim yn effeithio ar bethau sy’n fwy canolog i ddyfodol y Gymraeg. Sut mae cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg? Sut mae datblygu’r Gymraeg yn iaith gymdeithasol mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg wedi bod yn iaith y mwyafrif? Sut mae creu cymunedau newydd i siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd o bob oed mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg wedi bod yn iaith lleiafrif, ac weithiau’n iaith lleiafrif bach?
Rydyn ni’n awr am sôn am ddatblygu’r economi, am gynllunio tai, am reoli allfudo ymysg materion eraill. Nid materion i’r hen Fwrdd Iaith, neu i’r Comisiynydd Iaith yw’r rhain, ond materion i’r llywodraeth gyfan.
Sut mae ceisio mynd i’r afael â’r meysydd hyn? Ar hyn o bryd, prin iawn y caiff unrhyw ystyriaethau ieithyddol sylw yn y rhain, ond ar lefel arwynebol iawn.
Mae’r rhain yn mynd â ni ymhellach na’r brwydrau statws iaith. Dywedodd Joshua Fishman, y cymdeithasegydd iaith adnabyddus, mai’r brwydrau statws yw’r brwydrau llachar, hawdd eu hennill. Fe wnaeth e gynnwys ennill S4C yn un o’r brwydrau hawdd hyn. Llawer mwy anodd, meddai fe, yw dod â iaith yn ôl i aelwydydd, ac yn ôl yn iaith fyw gymdeithasol. Dyma’r frwydr sy’n ein hwynebu yn yr 21ain ganrif medd yr Athro Colin Williams. Disgrifiodd e’r dasg yma’n brosiect sy’n ymwneud â pheirianneg gymdeithasol. A dyma lle mae angen cymorth pob adran o’r llywodraeth.
Beth am i ni ddechrau rhestru’r math o bethau yr hoffen ni eu gweld, neu holi cwestiynau am bethau sy’n ymwneud â threfniant cymdeithas:
• Sut mae modd gofalu bod pentrefi Cymraeg yn gallu cynnig tai fforddiadwy i bobl leol yn hytrach na mynd yn ysglyfaeth i’r farchnad dai?
• Sut mae modd hybu economi ardaloedd traddodiadol Gymraeg, efallai trwy adleoli adrannau o’r Llywodraeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg?
• Sut mae modd hyrwyddo’r iaith ymysg rhieni sy’n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg? Dim ond 7% o blant Cymru sy’n cael eu magu ar aelwyd Gymraeg heddiw. Sut mae rhoi’r Gymraeg ar aelwyd yr 14% arall sy’n cael addysg Gymraeg?
• A oes modd cychwyn mentrau masnachol cydweithredol, tebyg i Mondragon yng Ngwlad y Basgiaid, sy’n cyflogi 83,000 o weithwyr, mewn ardaloedd Cymraeg?
• Sut mae rhoi’r un ddarpariaeth gymdeithasol i bobl ifanc yn y Gymraeg ag sydd ar gael yn y Saesneg mewn clybiau a chwaraeon ac adloniant ym mhob rhan o’r wlad?
• A oes modd sefydlu cadwyn o Ganolfannau Cymraeg, tebyg i’r 200 o Euskaltegi yng Ngwlad y Basgiaid, i ddysgu’r Gymraeg i oedolion ac i ddarparu ffocws cymdeithasol newydd mewn ardaloedd Seisnigedig?
Gallwch chi feddwl am lu o gwestiynau tebyg.
I wneud iawn am ddirywiad ardaloedd Cymraeg, a’r lleihad yn nifer y cartrefi Cymraeg ar draws y wlad, mae angen i’r Gymraeg fod yn fater canolog i bob adran o’r Llywodraeth, yn hytrach na chael ei gadael i ofal un gweinidog cymharol ymylol.
Dyna lle, gobeithio y bydd gan Dyfodol i’r Iaith gyfraniad. Mae angen syniadau newydd, ymchwil fanwl, a thrafodaeth ddeallus am sut i gynnal cymunedau Cymraeg traddodiadol a sut i greu rhai newydd, a’r cymunedau hyn yn eu tro yn rhoi modd i nifer yr aelwydydd Cymraeg gynyddu. Mae angen cynnal y drafodaeth hon mewn ffordd aeddfed a dylanwadol. I aralleirio hysbyseb rhyw gwmni arall, Mae’r dyfodol yn goch, gwyn a gwyrdd : os ydyn ni’n dymuno hynny.
Un stori o rybudd, efallai, i orffen. Ron i gyda’r teulu yn dathlu pen blwydd fy merch Efa a’m nai Lefi yn ddeugain oed, mewn bwyty Indiaidd yn Nhyddewi, un o’r nosweithiau hyfryd hynny lle mae’r Gymraeg yn ein llenwi gystal ac yn well na’r lluniaeth. Daeth y perchennog hynaws ataf ar y diwedd yn llawn diddordeb. “Now tell me, I’ve been listening to you speaking. Are you from abroad?”