DYSGU HANES CYMRU: Y LLYWODRAETH YN COLLI CYFLE

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi eu siom o ddeall bod y Llywodraeth wedi gwrthod un o argymhellion y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynglŷn â dysgu hanes Cymru fel rhan o’r Cwricwlwm newydd.

Dywed Wyn Thomas ar ran y mudiad:

“Mae Dyfodol i’r Iaith yn gresynu fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ddysgu corff cyffredin o wybodaeth i holl ddisgyblion Cymru sydd yn astudio hanes. Collwyd cyfle di-gost i danlinellu lle creiddiol yr iaith Gymraeg yn hanes Cymru.

“Yn ei dro, wrth gwrs, byddai sicrhau ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Un sylw ar “DYSGU HANES CYMRU: Y LLYWODRAETH YN COLLI CYFLE

  1. Ymateb siomedig iawn gan ein llywodraeth ni yng Nghaerdydd ynghylch dysgu hanes Cymru yn ysgolion Cymru, – er nad oedd yn fawr o syndod i mi. Gan fawr obeithio bydd etholiadau’r Senedd yn 2021 yn arwain at lywodraeth bydd yn cytuno y dylai ddysgu – fel ownc craidd – hanes Cymru i’w phlant.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *