BREXIT DI-GYTUNDEB YN ‘DDIFAOL’ I’R GYMRAEG

Yn sgil penderfyniad Llywodraeth San Steffan i atal y Senedd er mwyn gorfodi Brexit digytundeb, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan y byddai’r fath ddatblygiad yn un trychinebus i Gymru wledig. Gan mai dyma’r union ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn parhau fel cyfrwng naturiol a diofyn, byddai’n arwain at ganlyniad fyddo’n ddiafol i’r iaith yn ogystal.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol

“Ceir consensws clir bellach mai trychineb i economi cefn gwlad Cymru fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fath o gytundeb. Dyma’r union ardaloedd, wrth gwrs, sy’n parhau i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw ac o ddinistrio’r economi hon, mae’r iaith yn colli ei hasgwrn cefn.

Nodwn yn ogystal golled cefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd i ieithoedd llai ac i hyrwyddo cysylltiadau economaidd er lles y rhanbarthau gwledig.

Wrth gydnabod y berthynas allweddol rhwng economi, iaith a diwylliant, byddwn yn galw ar Lywodraeth Cymru, ac ar bawb sy’n cefnogi ffyniant y Gymraeg i ‘w gwneud yn gwbl eglur i Lywodraeth San Steffan nad ydym yn fodlon derbyn y fath ymddygiad di- egwyddor a dinistriol.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *