Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i’r Gymraeg. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi eu bod am sefydlu Comisiwn newydd fydd yn arwain ar bob agwedd o hyrwyddo a rheoleiddio’r iaith. Mae hwn yn gyfle euraidd i ehangu’r gorwelion a gweithredu’n gadarn o safbwynt twf y Gymraeg
Ond, os ydym am weld Comisiwn all wneud gwir wahaniaeth, bydd rhaid pwyso am gorff grymus, sy’n gwneud y gorau o arbenigedd ac ymarfer da cynllunio ieithyddol. Bydd angen i’r Comisiwn gael adnoddau digonol. Galwn am Gomisiwn all gyd-lynu’r holl amryfal sectorau, a dylanwadu ar holl Adrannau’r Llywodraeth er mwyn sicrhau cyd-weithio cynhwysfawr i adeiladu ar yr hyn a enillwyd eisoes. Mae angen Comisiwn all ymateb yn uchelgeisiol i’r heriau dyrys sydd o’n blaenau.
Byddwn yn pwyso am flaenoriaethau addas i gefnogi twf y Gymraeg. Rydym am weld Comisiwn Iaith Cenedlaethol fydd yn:
- Hyrwyddo’r Gymraeg yn y teulu ac mewn cymunedau
- Hyrwyddo addysg Gymraeg
- Gwneud Hanes Cymru ac ymwybyddiaeth iaith yn ganolog mewn ysgolion
- Creu rhagelen gynhwysfawr i ddysgu’r iaith ar gyfer y gweithle, addysg ac yn y cartref
- Cyfrannu at gynllunio tai ac economi ardaloedd mwy Cymraeg
- Creu rhaglen uchelgeisiol i ddysgu’r iaith yn y gweithle ac yn y cartref
- Cyfrannu at wneud y Gymraeg yn iaith gyffredin ar strydoedd ein dinasoedd, trefi, a phentrefi
- Cyflwyno rhaglen o Ganolfannau Cymraeg a fydd yn bwerdai iaith yn y gymuned
- Rhoi cymorth a chefnogaeth wrth weinyddu’r safonau iaith
- Creu safonau iaith ar gyfer y sector preifat
Ni allwn gyflawni hyn heb ddwyn perswâd ar y gwleidyddion, a dros y misoedd nesaf bydd rhaid i ni gynyddu ein gweithgareddau er mwyn cael y maen i’r wal.
Er mwyn ymateb i’r her hon, rydym am sefydlu swyddfa gyda swyddog lobïo amser llawn ym Mae Caerdydd i weithredu’n rhagweithiol ac ymateb yn syth i ddatblygiadau’r dydd: cryfhau ein presenoldeb gyda’r swyddogion a’r gwleidyddion o fewn y Senedd, er mwyn sicrhau’r gorau i’r Gymraeg
Rydym angen codi £50,000.00 i gyflawni hyn. Fel mudiad annibynnol ac amhleidiol, mae Dyfodol yn llwyr ddibynnu ar gefnogaeth unigolion sy’n rhannu ein gweledigaeth. Rydym eisoes yn gorff dylanwadol, diolch i haelioni ein haelodau a’n cefnogwyr.
A wnewch chi ein cefnogi er mwyn ymfalchïo gyda’n gilydd ein bod yn cyfrannu’n gadarnhaol at lewyrch y Gymraeg?