CYNLLUNIO Â’R GYMRAEG: PWYSO AM GYFUNDREFN SY’N CENOGI’R IAITH
Cydnabyddir eisoes bod perthynas yn bodoli rhwng ffyniant y Gymraeg yn ei hamryfal gymunedau a’r gyfundrefn cynllunio tai a thir. A chyda’r Llywodraeth wedi gosod targed i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yr her yw sicrhau bod y drefn cynllunio’n cefnogi’n hytrach na rhwystro’r uchelgais hon.
Yn y misoedd diwethaf, cyhoeddwyd glasluniau ar gyfer Fframwaith Cynllunio a Pholisi Cynllunio newydd i Gymru. Ond a fydd y datblygiadau diweddaraf hyn yn debygol o weithio’n gadarnhaol o blaid y Gymraeg? Os ddim, sut mae diwygio’r drefn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i dwf y Gymraeg?
Dyma rhai o’r cwestiynau fydd yn cael eu trafod gan Gwion Lewis yng nghyflwyniad Dyfodol i’r Iaith ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni. Mae’r mudiad yn falch iawn i groesawu siaradwr sydd ag arbenigedd dwys yn y maes cymhleth hwn, ac sydd a’r ddawn i ddod a’i wybodaeth o fewn cyrraedd pawb
Mae Gwion Lewis yn Fargyfreithiwr gyda Landmark Chambers yn Llundain; ei arbenigedd yw cyfraith cynllunio, ac yn unol a’i gefndir a’i ddiddordebau, mae’n ddihafal gymwys i drafod y maes hwn yng nghyd-destun Cymru a’r Gymraeg. Cynhelir y cyfarfod am 11.45yb, dydd Mercher 8 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau.
COMISIWN NEWYDD I’R GYMRAEG: CYFLE I EHANGU’R AGENDA?
Beth allwn ni ddisgwyl o’r Comisiwn newydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar gyfer cefnogi’r amcan o greu miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn 2050? Mae Dyfodol i’r Iaith yn sicr yn awyddus i gael gwybod mwy, a chael trafod y strwythurau newydd fydd yn mynd i’r afael â’r her o hyrwyddo twf yr iaith.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn falch iawn felly, o groesawu Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan i annerch ein cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod yn Nghaerdydd eleni. Bydd hyn yn gyfle gwych i ddod i wybod mwy am weledigaeth y Llywodraeth i’r Gymraeg, a’r egwyddorion sy’n ei chynnal.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:
“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn pwyso am gyfeiriad polisi newydd mewn perthynas â’r Gymraeg ers blynyddoedd bellach, a chredwn fod llawer i’w groesawu yn natganiadau diweddaraf y Llywodraeth. Yn amlwg, byddwn yn edrych yn fanwl ar sut y datblygir y cyfeiriad newydd hwn, ac edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r gwleidyddion dros y misoedd i ddod. Dymunwn weld fframwaith a strwythurau fydd yn caniatáu ystyriaeth o anghenion y Gymraeg ar draws yr holl feysydd polisi; a gweledigaeth ehangach, sy’n rhoi’r pwyslais ar dwf y Gymraeg, a hynny o safbwynt y nifer sy’n ei siarad, a’r cyfleoedd i’w defnyddio.”
“Edrychwn ymlaen at gael holi’r Gweinidog drwy ein Panel, a byddwn yn pwysleisio’r angen amlwg am ymrwymiad ac adnoddau i wireddu’r weledigaeth.”
Cynhelir y cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau am 1.15yp ar ddydd Gwener Awst 10.