Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r Cytundeb rhwng y BBC ac S4C. Meddai Ruth Richards, prif weithredwr Dyfodol i’r Iaith,
‘Bydd y Cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i S4C am y deng mlynedd nesaf. Rydyn ni’n awr yn edrych ymlaen at weld y Sianel yn rhoi ei sylw i ddatblygu’r defnydd o’r datblygiadau technolegol newydd. Serch hynny, rydym am weld cynnydd yn yr arian ag gaiff S4C, o leiaf yn cydredeg â chwyddiant. Rydym hefyd am wybod beth yw’r oblygiadau i arolwg Euryn Ogwen Williams o S4C.”
“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cytuno bod angen ateb ariannol pragmataidd nes y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu datblygu cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru. Mae’r cytundeb hwn i’w groesawu fel rhan o raglen gynhwysfawr o hyrwyddo’r iaith.”