Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ategu drachefn y galw am well sylw i’r Gymraeg wrth benderfynu ar faterion cynllunio. Mae’r mudiad yn ymwybodol bod cartrefi Redrow, sy’n gyfrifol am ddatblygiad Goetre Uchaf, ym Mangor, yn marchnata’r cartrefi newydd yn uniongyrchol at brynwyr tu allan i Gymru. Mae un o’r hysbysebion uniaith Saesneg yn annog “symud i Ogledd Cymru”, gan ganmol adnoddau naturiol yr ardal.
Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:
“Mae’r strategaeth farchnata hon yn dangos yn glir y farchnad darged ar gyfer datblygiadau o’r math, ac yn cadarnhau ein pryder ynglŷn â chymeradwyaeth diweddar Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ddatblygiad arall o 336 o dai ym Mhen y Ffridd. Clustnodwyd nifer fechan o dai yng Nghoetre Uchaf fel unedau fforddiadwy, ond heb fframwaith asesu digonol i ystyried yr oblygiadau ieithyddol, esgus yw hyn yn y bôn. Byddwn yn pwyso drachefn am strwythur a methodoleg gadarn a grymus i asesu gwir effaith datblygiadau o’r math ar y Gymraeg.“