Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r gwelliant i’r Bil Cynllunio a gynigir gan William Powell ac a gefnogir gan Llyr Huws Griffiths a’r Gweinidog, Carl Sargeant.
Yn sgil y gwelliant, bydd rhaid i awdurdodau cynllunio dalu sylw i ystyriaethau yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, lle bo hynny’n berthnasol i’r cais. Mae hyn yn gam mawr ymlaen, ac fe ddylai roi diwedd ar yr ansicrwydd sydd wedi golygu methu ystyried yr effaith ar y Gymraeg o gwbl, rhag ofn nad oedd hynny’n gyfreithlon.
Cyflwynodd cynrychiolwyr Dyfodol, Meirion Davies ac Emyr Lewis ddadleuon polisi a chyfreithiol cryf dros welliant o’r math hwn gerbron y Pwyllgor Cynllunio, dadleuon a bwysleisiwyd yn eu cyfarfodydd gyda Charwyn Jones a swyddogion cynllunio’r Llywodraeth.
Testun llawenydd i Dyfodol yw bod gwleidyddion o bob plaid ac o bob rhan o Gymru wedi cefnogi’r gwelliant hwn. Mae’n dangos bod cefnogaeth eang ar draws Cymru gyfan i’r angen i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae’r Gweinidog, a’r gwleidyddion oll, i’w llongyfarch am eu hymateb goleuedig i’r lobio.
Mae hi’n ofid serch hynny na welwyd y ffordd yn glir i fabwysiadu argymhellion eraill y Pwyllgor fyddai wedi adeiladu ymhellach ar y sylfaen y mae’r gwelliant yma wedi ei gosod.
Mae Dyfodol yn parhau i alw am gorff statudol, strategol, lled-braich oddi wrth y Llywodraeth, gyda’r cyfrifoldeb dros hyrwyddo’r Gymraeg a chynllunio er ei lles.