Unwaith eto eleni fe fydd gan Dyfodol i’r Iaith stondin ar faes y Brifwyl yn Llanelli gyda rhaglen lawn o weithgareddau i bawb o bob oedran! Bydd gyda ni stondin ddwbl felly digon o le i alw draw am sgwrs a phaned. Bydd yna weithgareddau i’r plant bob dydd, gan gynnwys creu plethbethau – looms bands – coch, gwyn a gwyrdd. Bydd Ynyr Llwyd hefyd yn galw draw i ganu ambell gân. Hefyd bydd sgyrsiau anffurfiol am bynciau llosg y dydd gyda nifer o arbenigwyr yn eu meysydd.
Dyma’r rhaglen yn llawn:
PABELL Y CYMDEITHASAU 2
Dydd Iau, Awst 7fed 11:30 – 12:30
Cynllunio Iaith yn Sirol: Sir Gâr a Chymru
Siaradwr: Cefin Campbell
AR Y STONDIN (313-314)
Dydd Llun, Awst 4ydd 11:30 – 12:00
Sgwrs a phaned – Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyda
Dr Einir Young, Prifysgol Bangor
Dydd Mercher, Awst 6ed 11:30 – 12:00
Sgwrs a phaned – y Gymraeg mewn Busnes – profiad un cwmni
Myrddin ap Dafydd, Cwrw Llŷn
Dydd Gwener, Awst 8fed 14:00 – 14:30
Sgwrs a phaned – Papur Gwyn ar Anghenion Dysgu Ychwanegol gyda
Dr Elin Walker Jones ac Elin Wyn
Dydd Llun Awst 4ydd am 14:00 a Dydd Iau Awst 7fed am 15:00
Ambell gân gan Ynyr Llwyd
Bob dydd ar y stondin:
Cyfle i greu plethbethau (loom bands); cylch allweddi;
Bawd Lan i’r Dyfodol.