DYFODOL YN GALW AM ARDALOEDD O SENSITIFRWYDD IEITHYDDOL
Galwodd mudiad iaith Dyfodol i’r Iaith am ddynodi pob ardal yng Nghymru yn ôl ei sensitifrwydd ieithyddol. Byddai dynodiad o’r fath yn sylfaen i drefn newydd wrth ystyried y Gymraeg ym maes cynllunio.
Mewn dogfen a gyhoeddwyd heddiw mae Dyfodol yn galw am roi cyfrifoldeb statudol ar gorff newydd i ddynodi pob un ward etholaethol yng Nghymru yn ôl ei sensitifrwydd ieithyddol. Byddai’r dynodiad yn amrywio yn ôl nifer y siaradwyr Cymraeg a ffactorau eraill a byddai rhaid i’r corff adolygu’r dynodiad bob pum mlynedd.
Aeth Dyfodol ati i lunio Canllaw Cynllunio yn dilyn gwahoddiad gan y Prif Weinidog, Carwyn Joes, am bapur fyddai’n amlinellu sut y gellid mynd ati yn ymarferol i ystyried y Gymraeg yn y maes cynllunio.
Dywedodd Bethan Jones Parry, Llywydd Dyfodol, “Mae’n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys ar wyneb y Bil Cynllunio arfaethedig a’r cam nesaf yw llunio canllaw ymarferol ar gyfer awdurdodau cynllunio a datblygwyr.”
“Pan fo dynodiad o Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn unrhyw ardal mae’n hawdd i ddatblygwyr a chynllunwyr ddeall bod angen ystyriaeth arbennig i’r amgylchedd. O greu dynodiad o Ardal o Sensitifrwydd Ieithyddol bydd yr un peth yn wir o ran ystyried lles y Gymraeg”, meddai Ms Jones Parry.
Mae Dyfodol yn awgrymu y dylid naill ai greu corff newydd i fod yn gyfrifol am ddynodi ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, neu y dylid rhoi cyfrifoldeb statudol a chyllideb ddigonol i Gomisiynydd y Gymraeg i wneud y gwaith.
Gallwch ddarllen y ddogfen gyfan yma: Dyfodol ar Gynllunio a’r Gymraeg