Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu ymateb cadarnhaol y Prif Weinidog tuag at gynllunio a’r Gymraeg ar ôl cyfarfod â Carwyn Jones heddiw.
Bu Emyr Lewis, Heini Gruffudd ac Elin Wyn yn cyfarfod â’r Prif Weinidog yn ei swyddfa i drafod cynnwys y Gymraeg ar wyneb y Bil Cynllunio. Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn deall ac yn cydnabod bod rhaid i’r Gymraeg fod yn iaith gymunedol gref ac roedd yn agored i ystyried cynnwys y Gymraeg yn y Bil Cynllunio.
Mae’r Prif Weinidog wedi gwahodd Dyfodol i wneud gwaith pellach ar sut yn union y gallai hyn ddigwydd yn ymarferol. Dywedodd Carwyn Jones bod angen edrych yn fanwl ar ddiffinio lle byddai angen ystyried y Gymraeg mewn ceisiadau cynllunio ac a fyddai angen canllaiwau gwahanol ar gyfer gwahanol rannau o Gymru.
Fe fydd Dyfodol nawr yn cynnull tasglu o arbenigwyr cynllunio a’r gyfraith i lunio papur cynhwysfawr i’r Prif Weinidog.
Gallwch ddarllen cyflwyniad Dyfodol i’r Prif Wenidog yma: