Mae Dyfodol i’r Iaith yn hynod siomedig fod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo cais i adeiladu 42 o dai newydd ym mhentref Porthyrhyd dydd Iau (25/4/24).
Gyda Mudiad Amddiffyn Porthyrhyd roedd Dyfodol i’r Iaith wedi cyflwyno tystiolaeth gadarn y byddai caniatáu’r datblygiad yn siŵr o arwain at Seisnigeiddio pentref lle mae 68.5% yn gallu’r Gymraeg. Mae’n un o wardiau cynyddol brin hynny lle mae’r Gymraeg yn rhan o wead y gymuned ac yn iaith feunyddiol y mwyafrif. Ym mis Hydref 2023 nodwyd bod 68.5% o drigolion y pentref yn siarad Cymraeg. Mae’r ganran hon o siaradwyr Cymraeg yn perthyn i 10% uchaf cymunedau Cymru o ran canran siaradwyr. Mae gan y pentref, felly, arwyddocâd ieithyddol arbennig. Gyda 68.5% o siaradwyr Cymraeg, mae modd i’r pentref gynnal cymuned Gymraeg ei hiaith yn effeithiol, a’r Gymraeg yn chwarae rhan amlwg ym mywyd y gymuned. Dim ond 73 o adrannau etholiadol trwy Gymru gyfan sydd â rhagor na 60% yn siarad y Gymraeg.