Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, ynglŷn â’r gofyn i blannu coed er mwyn cadw carbon yng nghyd-destun gwarchod y cymunedau gwledig hynny sy’n cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol.
Roedd y mudiad yn falch o gael gwybod bod y Llywodraeth yn cydnabod yr anghenion a’r egwyddor mai ffermwyr yn hytrach na chwmnïau allanol ddylai fod yn ganolog i’r her o gadw carbon drwy gynyddu fforestydd.
Fodd bynnag, credai’r mudiad fod bellach angen ymrwymiadau penodol a chadarn mewn perthynas â’r her dyngedfennol hon, ac mae’n galw am i’r Llywodraeth:
- Ganiatáu cyllid i ffermwyr sy’n byw ar y tir lle bwriedir plannu’r coed a gwahardd arian i gwmnïau allanol allu manteisio ar sefyllfa mor ddifrifol ar draul y gymuned frodorol.
- Yn unol ag argymhellion Adroddiad yr Athro Gareth Wyn Jones (Defnydd Tir a Newid Hinsawdd), a gyflwynwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym Mawrth 2010, bod plannu’n digwydd ar diroedd llai cynhyrichiol – pridd asidig ucheldir a thir dan redyn.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:
“Mae’r mater hwn yn amlygu’r angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael a dau fath o gynaladwyedd sydd mor allweddol i’w gweledigaeth, sef sicrhau dyfodol i’r blaned ac i’w chymunedau yng nghefn gwlad Cymru.