DYFODOL YN CROESAWU £30 MILIWN YCHWANEGOL I ADDYSG GYMRAEG, OND YN PWYSLEISIO’R ANGEN AM YMRODDIAD HIRDYMOR

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd £30m ychwanegol ar gael i ddatblygu addysg Gymraeg, a dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:

“Mae’n dda iawn gennym weld y Llywodraeth yn cydnabod bod angen buddsoddi mewn addysg Gymraeg a bod hynny’n hanfodol i’r nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.”

Ychwanegodd, fodd bynnag na fyddai’r fath fuddsoddiad yn dderbyniol fel taliad unigol a bod rhaid sicrhau bod y gefnogaeth yn rhan o ymrwymiad hirdymor i ddatblygu addysg Gymraeg:

“Byddwn yn pwysleisio, fodd bynnag, bod angen y math hwn o fuddsoddiad ar sail flynyddol reolaidd os yw am wneud gwir wahaniaeth a chefnogi awdurdodau lleol i gynllunio darpariaeth gadarn yn unol ag amserlen eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.

Yng nghyd-destun Prosiect Cymraeg 2050, ac addysg yn benodol, rhaid i’r Llywodraeth dderbyn nad oes ganddynt ddewis arall ond gweithredu’n strategol a chefnogi’r camau angenrheidiol gyda chyllid cyson a phwrpasol.”

 

GALW AM DDEDDF CYNLLUNIO NEWYDD

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am Ddeddf Cynllunio newydd i Gymru.  Daw’r alwad hyn yn sgil yr argyfwng sy’n wynebu pobl ifanc o gymunedau Cymraeg wrth brynu tai a cheisio aros yn eu hardaloedd.

Medd Wyn Thomas, aelod o fwrdd Dyfodol i’r Iaith, sydd wedi ymchwilio’n helaeth i argyfwng y sefyllfa dai yng Nghymru,

“Mae tai ein hardaloedd Cymraeg ar drugaredd y farchnad agored, gydag ardaloedd penodol yn dod yn agos at fod hanner y stoc tai yn dai gwyliau neu’n ail gartrefi.

Mae’r arolygon effaith ieithyddol ar gynlluniau tai newydd yn gwbl annigonol.

Hyd nes cael Deddf newydd mae angen trawsnewid y  buddsoddi mewn Cynlluniau Cymorth Prynu, sydd yn gynllun Llywodraeth Cymru, er mwyn i bobl ifanc allu aros yn eu cymuned.

Mae prisiau tai yn y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol gyda’r uchaf mewn cymhariaeth â chyflogau yn Ewrop.  Mae’r sefyllfa’n fwy argyfyngus yn yr ardaloedd Cymraeg, lle mae cyfartaledd cyflog yn gymharol isel, a mewnfudwyr yn cymryd meddiant o’r stoc tai.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am Ddeddf Cynllunio a fydd yn rhoi cap ar ganran tai gwyliau ac ail dai mewn ardaloedd lleol, ac a fydd yn rhoi modd i gynghorau lleol gael grym ar reoli’r stoc tai yn eu hardaloedd. Byddai Deddf o’r fath hefyd yn gallu ei gwneud yn angrheidiol cael caniatâd cyn newid cartref i fod yn ail dŷ.