Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r trafodaethau sydd ar y gweill rhwng Llafur a Phlaid Cymru ac yn gobeithio bydd hyn yn gyfle i ailosod yr agenda ar gyfer polisïau i gefnogi’r Gymraeg.
Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:
“Byddwn yn pwyso ar y ddwy Blaid i adnabod y trafodaethau hyn fel cyfle i ystyried gwir anghenion y Gymraeg er mwyn cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr.”
Ymysg y blaenoriaethau, mae’r mudiad yn galw ar y ddwy Blaid i:
- Ddyrchafu statws Is-Adran y Gymraeg o fewn y Llywodraeth.
- Ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chyflwyno rhaglen hyfforddi Cymraeg uchelgeisiol i staff sy’n gweithio ym maes addysg.
- Llunio polisi Cynllunio sy’n gwarchod y Gymraeg a mynd i’r afael â’r argyfwng tai.
- Gweithredu ar fyrder yn unol ag argymhellion adroddiad Dr Simon Brooks ar ail gartrefi.
- Datblygu cynllun Arfor fyddo’n hybu’r iaith a datblygu’r economi yng nhadarnleoedd y Gymraeg.
- Ehangu’r Gymraeg yn y gweithle.
- Cryfhau statws yr iaith yn y sector breifat.
Ac yn olaf a chwbl ddigost-
- Cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y Senedd, gan gynnwys arweinyddion a gweinidogion.