Sorry, this entry is only available in Cymraeg.
(Cymraeg) CWRICWLWM CYMRU A’R GYMRAEG MEWN ADDYSG FEITHRIN
Reply
The latest discussion point of our consultation on Planning the Regeneration of the Welsh Language is Developing the Workforce.
As before, we would be very grateful to receive your comments, suggestions and any practical experience you may have. You are welcome to use the questions and template below or send your comments in any other format that suits you.
Below is a summary of Dyfodol’s demands in relation to the role of the workplace. If you would like to read the full text of Planning the Regeneration of the Welsh Language, a copy is available on our website, dyfodol.net
Thank you to everyone who has already contributed to our discussion. We look forward to hearing from you – do get in touch:
or telephone 01248 811798
DISCUSSION POINT 4: CREATING WELSH SPEAKERS – DEVELOPING THE WORKFORCE
Dyfodol believes that:
One significant challenge in education, and to which the response is at present insufficient, is developing the workforce, both teachers and classroom assistants, to undertake the work through the medium of Welsh and do so to a high standard. The only way of doing this is to release staff from their posts for extended periods, either to improve their language skills or to learn Welsh from scratch.
This is absolutely fundamental and there is no option but to invest heavily in this. Habe, the organisation responsible for this in Euskadi, has an annual budget of 40 million Euros. If we are serious about creating a million Welsh speakers, we need a comparable sum and to focus on two things:
The effect of such investment would be cumulative: creating new Welsh speakers who in turn would produce a host of new speakers through the education and care sectors.
In addition to the above summary, Dyfodol have also written a paper on the Welsh language among the public sector workforce and in the workplace. We concluded that:
DO YOU AGREE WITH US? HAVE YOU ANY FURTHER COMMENTS ON THE ROLE OF THE WORKFORCE AND THE WORKPLACE IN REGENERATING THE WELSH LANGUAGE?
Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw Addysg Statudol, Bellach ac Uwch.
Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.
Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â chreu siaradwyr drwy’r gyfundrefn addysg statudol, bellach ac uwch. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net
Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:
neu ffoniwch 01248 811798
PWNC TRAFOD 3: CREU SIARADWYR – ADDYSG STATUDOL, BELLACH AC UWCH
Dyma farn Dyfodol:
Mae twf yn nifer yr ysgolion Cymraeg penodedig yn hanfodol. Mae i bob ysgol ei rhan yn y gwaith ond mae gallu ysgolion Cymraeg penodedig, drwy weithredu fel cymunedau Cymraeg, i gynhyrchu siaradwyr hyderus yn gwbl unigryw. Mewn ysgolion eraill, bydd rhyw gymaint o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.
Yr hyn sydd ei angen felly yw proses o symud drwy gontinw-wm gan amcanu at gyrraedd, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, statws ysgol Gymraeg benodedig. Yn Ewscadi, gwlad y Basgiaid, ers i’r wlad honno ennill hunan-lywodraeth, gwelwyd symudiad cyson o ysgolion Sbaeneg-yn-unig i ysgolion dwyieithog ac yna i ysgolion Basgeg, nes i’r categori cyntaf grebachu allan o fodolaeth a’r trydydd categori ddenu’r mwyafrif mawr. Yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, wedi profiad diflas Llangennech a’r llwyddiant yno yn y diwedd, mae’r un broses ar waith yn y sector cynradd heb fawr o wrthwynebiad gan rieni.
Mewn cymdeithas mor symudol ag un heddiw, mae delio â hwyrddyfodiaid yn sialens a’r unig ateb boddhaol yw cyrsiau dwys mewn canolfannau iaith.
Mae gwaith mawr pellach i’w wneud mewn addysg bellach a hyfforddiant, sydd erbyn hyn yn gyfrifoldeb i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhaid diogelu a datblygu ymhellach waith y Coleg hwnnw mewn Addysg Uwch.
Os am dwf sylweddol mewn addysg Gymraeg, mae’n rhaid gwneud mwy nag ateb y galw, fel y mae Eluned Morgan wedi’i nodi. Rhaid ei ysgogi a’i arwain.
YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU?
GWERTHFAWROGWN YN OGYSTAL EICH SYLWADAU AR SUT I GYMREIGIO ADDYSG BELLACH, ADDYSG UWCH A PHRENTISIAETHAU.