GALW AM WEINIDOG I’R GYMRAEG

Tra’n llongyfarch Eluned Morgan ar ei chyfrifoldebau iechyd newydd, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Brif Weinidog Cymru i sefydlu Gweinidog penodol i’r Gymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni ers blynyddoedd lawer wedi gweld y Gymraeg yn faes cyfrifoldeb gweinidogion sydd o dan bwysau mawr o gyfeiriadau eraill.

“Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, er tegwch iddo, wedi ysgwyddo baich y Gymraeg, ond roedd yn amhosib iddo roi blaenoriaeth i’r Gymraeg.  Yna daeth Brexit ac yn awr Covid-19 a materion iechyd cysylltiedig.  Dyw hi ddim yn bosib i’r holl feysydd sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg gael tegwch gan Weinidog mewn trefn fel hon.

“Cawsom addewid gan y Llywodraeth y byddai is-adran y Gymraeg yn datblygu’n gorff dylanwadol o fewn y Llywodraeth.  Mae tawelwch wedi bod ers hynny.

“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw’n gyson am Awdurdod Cenedlaethol i gydlynu cynllunio ieithyddol yng Nghymru ar draws holl feysydd cyfrifoldebau’r llywodraeth.  Rydyn ni am i’r Awdurdod fod yn un annibynnol heb ddibynnu fod ar fympwy llywodraeth.  Mae’r sylw ymylol a gaiff y Gymraeg yn nhrefn y Llywodraeth yn profi’r angen am Awdurdod Cynllunio Ieithyddol hyd braich. Mae’n hanfodol ei fod yn cydweithio â Gweinidog fydd yn gallu rhoi ei holl sylw i’r Gymraeg.

“Mae Covid-19 wedi peri argyfwng i gymunedau Cymraeg, ac i weithgareddau diwylliannol y Gymraeg.  Mae brys ychwanegol, felly i sefydlu Awdurdod Iaith Cenedlaethol fydd ag adnoddau a grym i gydlynu a sbarduno adfywiad yr iaith. Ac mae angen Gweinidog y Gymraeg fydd yn gallu rhoi ei sylw cyfan i hyn.”

 

DYFODOL YN GALW AM ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD A MÔN

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Gynghorau Gwynedd a Môn i adolygu’r targed a nodir yn eu Cynllun Datblygu Lleol cyfredol i adeiladu 7,184 o gartrefi newydd yn yr ardal hyd at 2026.

Lluniwyd y Cynllun Datblygu yng nghyd-destun y disgwyliad i ddatblygu atomfa’r Wylfa. Yn sgil y cyhoeddiad na fydd y cynllun hwn yn bwrw ymlaen, cred y mudiad ei bod yn angenrheidiol, er lles y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn, i adolygu targedau sydd bellach yn amherthnasol i anghenion y ddwy sir.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“O’r cychwyn, roddem yn grediniol bod Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn yn gosod targedau cwbl anaddas o safbwynt adeiladu tai newydd, ac yn sicr bellach, does dim cyfiawnhad dros barhau gyda fframwaith sydd nid yn unig yn gwbl anghynaladwy, ond sy’n bygwth y Gymraeg fel cyfrwng cymdeithasol yn ogystal.

Galwn ar y ddau Gyngor i adolygu’r Cynllun Datblygu ar fyrder, gan roi blaenoriaeth i anghenion economaidd ac ieithyddol lleol, a gosod pwyslais ar ynni cynaliadwy a chefnogi busnesau lleol.”