Ail destun trafod ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw maes allweddol y blynyddoedd cynnar.
Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.
Nodwn yn ogystal bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar Bolisi Cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd (dyddiad cau: Mai 5ed 2020). Efallai byddwch yn awyddus i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn yn ogystal; os felly, mae croeso i chwi rannu eich sylwadau â ninnau hefyd.
Isod, ceir grynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â chreu siaradwyr yn ystod y blynyddoedd cynnar. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net
Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:
neu ffoniwch 01248 811798
PWNC TRAFOD 2: CREU SIARADWYR (i) Y BLYNYDDOEDD CYNNAR
Yr Egwyddor:
Mae’r blynyddoedd cynnar yn holl-bwysig – o ran sefydlu hyfedredd ac o ran sefydlu’r arfer o ddefnyddio’r iaith.
YDYCH CHI’N CYTUNO Â’R EGWYDDOR HWN? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU?
Y Nod:
- Yn y blynyddoedd yma mae trosglwyddo’r Gymraeg drwy’r teulu a’r aelwyd yn ganolog – rhyw 7% o aelwydydd Cymru sydd ar hyn o bryd yn aelwydydd Cymraeg. Mae angen calonogi a chefnogi rhieni i drosglwyddo’r iaith i’w plant ac mae mentrau megis cynllun Twf, a grëwyd gan Gwmni iaith Cyf ond mae Mudiad Meithrin yn gyfrifol am ei weithredu, yn dangos sut mae gwneud hynny.
- Yn gyfochrog â hyn, mae angen Cymreigio’r system addysgofal i’r blynyddoedd cynnar – cylchoedd meithrin ond hefyd yr holl amrywiaeth o leoliadau sy’n darparu gofal i blant bach. Yn yr oed yma trochiad, nid dwyieithrwydd, yw’r egwyddor sylfaenol. Mae llawer o waith wedi’i wneud ac wedi dwyn ffrwyth ond mae bylchau mawr, mawr iawn yn aros.
YDYCH CHI’N CYTUNO Â’R NODAU UCHOD?
PA GYMORTH A CHEFNOGAETH SYDD ANGEN AR RIENI A GOFALWYR I DROSGLWYDDO’R IAITH AR YR AELWYD?
SUT GALLWN DDARPARU ADDYSGOFAL GYMRAEG CYNHWYSFAWR I BLANT CYN IDDYNT DDECHRAU’R YSGOL?
OES GENNYCH CHI UNRHYW BROFIADAU O HYRWYDDO’R GYMRAEG YN Y BLYNYDDOEDD CYNNAR A FYDDECH YN FODLON EU RHANNU GYDA NI?
OES GENNYCH CHWI UNRHYW SYLWADAU PELLACH YNGLŶN Â HYRWYDDO’R GYMRAEG YN YSTOD Y BLYNYDDOEDD CYNNAR?