Mewn cyfnod digynsail o bryder ac ansicrwydd, daw’n gynyddol bwysig i ni gadw’n bositif ac edrych ymlaen at gyfnod gwell. Dros y misoedd nesaf, bydd Dyfodol i’r Iaith yn parhau i weithredu’n gadarnhaol a chreadigol dros y Gymraeg yn wyneb argyfwng dirdynnol Covid-19, gan sicrhau na fydd yr iaith yn cael ei hanwybyddu dros y cyfnod dyrys hwn.
Byddwn yn lansio ein dogfen polisi, Cynllunio Adferiad y Gymraeg ar lein dydd Gwener (Ebrill 3) ac yn rhannu’r testun gydag Aelodau’r Cynulliad a mudiadau sy’n cefnogi’r Gymraeg. Dyma ein glasbrint ar gyfer Strategaeth gadarn i’r Gymraeg. Mae holl argymhellion y ddogfen yn seiliedig ar yr egwyddor o gynllunio ieithyddol cynhwysfawr a chreu strwythurau addas i ymgymryd â’r gwaith.
Drwy gyfrwng ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol byddwn yn cyhoeddi cyfres o destunau trafod sy’n codi o Gynllunio Adferiad y Gymraeg. Apeliwn am sylwadau a syniadau gan bawb er mwyn annog trafodaeth ar beth yw blaenoriaethau ac anghenion y Gymraeg.
Mae hwn yn gyfnod anodd i ni i gyd, ond credwn ei fod hefyd yn gyfle i ni feddwl, myfyrio a gobeithio am well byd. Estynnwn wahoddiad i chwi i gyd ddychmygu a chynllunio ar gyfer adferiad y Gymraeg mewn byd fydd yn rhydd o fygythiad Covid-19.
CRYNODEB O’R DDOGFEN:
Mae Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn cynnig ymateb i’r her o sicrhau twf y Gymraeg drwy ddefnyddio egwyddorion cydnabyddedig Cynllunio ieithyddol cynhwysfawr er mwyn gwrthdroi shifft iaith a chreu cymunedau o siaradwyr Cymraeg. Mae’n nodi hanfod y meysydd canlynol:
- Lledaenu dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg
- Rôl y drefn addysg blynyddoedd cynnar ac addysgofal
- Y gyfundrefn Addysg Statudol, Bellach ac Uwch
- Datblygu’r Gymraeg ymysg rhieni, y gweithlu ac yn y gweithle
- Hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd dydd-i-ddydd
- Gwarchod y Gymraeg fel iaith gymunedol gyffredin yn ei chadarnleoedd
- Defnyddio technoleg a’r cyfryngau i gefnogi’r Gymraeg
- Cynllunio ieithyddol – gweithredu’r egwyddorion a chyd-lynu’r arbenigedd mewn modd integredig a chreadigol
- Mynnu ar strwythurau cadarn a grymus i roi’r gofynion ar waith