Y FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL:

Mae Dyfodol i’r Iaith yn argyhoeddedig bod rhan allweddol gan y Fframwaith i’w chwarae ym mwriad clodwiw Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o ddefnyddwyr y Gymraeg erbyn 2050.

 

‘Rydym yn croesawu elfennau penodol o’r ddogfen Drafft megis y pwyslais ar dai fforddiadwy, y datblygu gofalus yng nghefn gwlad Cymru a phwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. ‘Rydym hefyd yn fodlon bod y cyfrifoldeb dros weithredu asesiadau effaith yn ymwneud â’ r Gymraeg bellach yng ngofal yr Awdurdodau Lleol.

 

Mae’r Trosolwg a phwynt 4 yn yr adran Canlyniadau yn addawol o ran cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn y broses Cynllunio. Ond wrth restru’r hyn sydd yn ofynnol i’w dilyn yn y Cynlluniau Datblygu Strategol nid oes sôn am y Gymraeg.’

 

Felly, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau’r canlynol yn fersiwn derfynol y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, er sicrhau bydd cymunedau hyfyw a Chymraeg yn parhau yn 2050:-

 

  • Rhanbarth gorllewinol yn cynnwys pob sir â chymuned[au] â mwy na 25% o siaradwyr Cymraeg. Mae nifer o Gynghorau Sir wedi nodi cymunedau â 25% o siaradwyr Cymraeg fel gwaelodlin wrth ystyried effeithiau adeiladu tai. Mae Dyfodol i’r Iaith eisiau sefydlu’r egwyddor o gynnig ystyriaeth greiddiol yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i bob cymuned â 25% neu fwy o siaradwyr Cymraeg.

 

  • Addasu’r haenau yn y Drefn Cynllunio a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio fel partneriaid cyfartal gyda’r Cynghorau Sir. Yn eu tro, dylai pob Cyngor Sir sydd â chymuned[au] â mwy na 25% o siaradwyr Cymraeg, gydweithio gyda’r cynghorau cymuned a’r mentrau iaith wrth benderfynu ar y datblygiadau sydd yn addas i’w hardaloedd;

 

  • Ym mhob sir â chymuned â mwy na 25% o siaradwyr Cymraeg, bod rhaid ystyried

[a] cyfanswm y tai gwag;

[b] graddfeydd genedigaethau a marwolaethau dros y ddegawd flaenorol;

[c] patrwm allfudo a mewnfudo dros y ddegawd flaenorol wrth bennu’r nifer a lleoliad y tai i’w hadeiladu yn y Cynlluniau Datblygu Lleol;

 

  • Sicrhau bod gan Gomisiynydd y Gymraeg yr un grymoedd fel Ymgynghorai Statudol i amddiffyn a hybu’r Gymraeg ag sydd gan gyrff statudol ym meysydd cynaliadwyedd ac amrywiaeth amgylcheddol. Golyga hyn gryfhau arbenigedd o fewn adran y Comisiynydd i weithredu’r cyfrifoldeb ychwanegol yma.

 

  • Newid prif egwyddor y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel ei fod yn blaenoriaethu effaith “defnydd tir” ar drigolion yr ardal, ac er mwyn gwireddu polisïau Llywodraeth Cymru, effaith newid “defnydd tir” ar y Gymraeg.

 

DYFODOL YN GALW AM WARIANT AR ADDYSG GYMRAEG I RIENI

Ymddengys yn debygol y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £400 miliwn yn sgil yr arian a glustnodir i Loegr ar gyfer addysg, ac mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am i gyfran o’r arian hwn gael ei glustodi ar gyfer cynorthwyo rhieni plant oedran ysgol i ddysgu’r Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Caderiydd y mudiad:

“Rydym wedi gofyn i’r Prif Weinidog, y Gweinidog Addysg a Gweinidog y Gymraeg neilltuo £10 miliwn o’r arian hwn ar gyfer annog rhieni i ddysgu’r Gymraeg, ac i’r gwaith gael ei weinyddu trwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

Gall yr arian dalu am gyrsiau i rieni sy’n ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref.  Bydd hyn yn hwb i blant sy’n dysgu’r iaith, mewn ysgolion Cymraeg neu fel arall, ac yn gymorth tuag at y nod o gael rhagor o gartrefi Cymraeg. Credwn fod sefydlu’r Gymraeg ar yr aelwyd yn allweddol i ffyniant y Gymraeg, ac y byddai’r buddsoddiad hwn yn cynrychioli gwerth aruthrol i’r Gymraeg.”