BREXIT DI-GYTUNDEB YN ‘DDIFAOL’ I’R GYMRAEG

Yn sgil penderfyniad Llywodraeth San Steffan i atal y Senedd er mwyn gorfodi Brexit digytundeb, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan y byddai’r fath ddatblygiad yn un trychinebus i Gymru wledig. Gan mai dyma’r union ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn parhau fel cyfrwng naturiol a diofyn, byddai’n arwain at ganlyniad fyddo’n ddiafol i’r iaith yn ogystal.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol

“Ceir consensws clir bellach mai trychineb i economi cefn gwlad Cymru fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fath o gytundeb. Dyma’r union ardaloedd, wrth gwrs, sy’n parhau i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw ac o ddinistrio’r economi hon, mae’r iaith yn colli ei hasgwrn cefn.

Nodwn yn ogystal golled cefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd i ieithoedd llai ac i hyrwyddo cysylltiadau economaidd er lles y rhanbarthau gwledig.

Wrth gydnabod y berthynas allweddol rhwng economi, iaith a diwylliant, byddwn yn galw ar Lywodraeth Cymru, ac ar bawb sy’n cefnogi ffyniant y Gymraeg i ‘w gwneud yn gwbl eglur i Lywodraeth San Steffan nad ydym yn fodlon derbyn y fath ymddygiad di- egwyddor a dinistriol.”

EISTEDDFOD DYFODOL

Diolch i bawb a sicrhaodd Eisteddfod mor gofiadwy i ni eleni: boed hynny’r sawl a gyfrannodd at ein cyflwyniadau a’n trafodaethau, a fu’n diddanu ar ein stondin, neu a alwodd heibio am sgwrs a holi am ein gwaith.

CYFLWYNIADAU

Cawsom gyfle i wneud dau gyflwyniad o lwyfan Pabell y Cymdeithasau, gan gynnwys trafodaeth amserol a chadarnhaol ar gyfraniad y Cynghorau Sir i amcanion Cymraeg 2050. Credwn ei bod yn ymarferol a hanfodol i Gynghorau’r ardaloedd Cymreicaf (Môn, Ceredigion, Sir Gar, yn ogystal â Gwynedd) weithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu Dyfrig Siencyn o Wynedd a Peter Hughes-Griffiths o Sir Gâr yn trafod yr her a’r realiti o gyflawni hyn dan gadeiryddiaeth Gwerfyl Pierce Jones

Ar y dydd Gwener, bu Cynog Dafis a Dr Kathryn Jones o Iaith Cyf. yn amlinellu pwysigrwydd Cynllunio Ieithyddol a strwythurau rheoli grymus ac addas os ydym am lunio ymateb cynhwysfawr i greu’r amgylchiadau a’r ewyllys a fyddo’n caniatáu twf y Gymraeg. Dyma conglfaen ein gobeithion am adfywio’r iaith a gobeithiwn y bu’r cyflwyniad hwn yn sail at drafodaethau’r dyfodol. Braf oedd cael trafod Cynllunio Ieithyddol yng nghyd-destun datblygiadau addawol, megis cyhoeddiad diweddar Weinidog y Gymraeg i alw ar arbenigedd ieithyddol er mwyn cynllunio’r camau allweddol nesaf.

TRAFODAETHAU

Croesawyd ystod o arbenigwyr i rannu eu syniadau a’u profiadau gydag ymwelwyr i’r stondin. Bu Gareth Pierce yn trafod anghenion addysg; Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, yn amlinellu dyfodol ein sianel genedlaethol; a Simon Brooks ac Wyn Thomas yn cyflwyno problemau’r gyfundrefn gynllunio mewn perthynas â’r Gymraeg.

ADLONIANT

Yn dilyn y holl siarad, braf oedd cael ymlacio ganol prynhawn a mwynhau’r wledd o adloniant a drefnwyd ar ein cyfer. Diolch i’r cerddorion gwych a fu’n codi’n calonnau yn ystod yr wythnos!

CYMRAEG 2050: YMATEB DYFODOL I GYHOEDDIAD GWEINIDOG Y GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi rhoi croeso gofalus i’r cyhoeddiad a wnaethpwyd gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan ar Faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Llun Awst 5ed). Mae’r mudiad lobïo’n croesawu’r bwriad i benodi arbenigwyr iaith er mwyn cyfrannu at y strategaeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac yn cydnabod hyn fel cam cyntaf tuag at fabwysiadu egwyddorion Cynllunio Ieithyddol i arwain y broses o lunio ymateb cynhwysfawr i’r her o sicrhau ffyniant y Gymraeg.

Nodwyd, fodd bynnag bod angen mwy o ymrwymiad o safbwynt adnoddau a grym os am gyrraedd y nod. Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’n dda clywed bod y Llywodraeth yn bwriadu gwneud y gorau o’r arbenigedd Cynllunio Ieithyddol sydd ar gael: dyma’r cam cyntaf tuag at sefydlu’r math o ymateb strategol gynhwysfawr y bu Dyfodol yn argymell ers peth amser.”

“Rhaid cofio, fodd bynnag, maint yr her sy’n ein wynebu, ac ni ellir cyflawni’r nod heb adnoddau teilwng. Mae Dyfodol yn amcangyfrif bod angen £100 miliwn i weithredu amcanion Cymraeg 2050. Credwn yn ogystal bod angen cryfhau ac amlygu statws yr Adran sy’n ymwneud â’r gwaith hwn o fewn y Llywodraeth os yw am gael gwir ddylanwad.”

“Byddwn yn parhau i bwyso am gyllid ac adeilwaith teilwng ar gyfer y gwaith, gan ofyn am gyfarfod gyda’r Prif Weinidog cyn gynted â phosib