Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at drafod gyda’r Llywodraeth y newidiadau posibl yn rôl y Comisiynydd iaith a’r posibiliadau ar gyfer sefydlu Asiantaeth Iaith fewnol yn rhan o’r Llywodraeth.
Mae Dyfodol yr Iaith am weld y Llywodraeth, o dan ba drefn bynnag, yn rhoi blaenoriaeth i bedwar maes sylfaenol cynllunio iaith:
* y cartref: cynyddu nifer y cartrefi Cymraeg o 7% i 10% o fewn 5 mlynedd gyda gofal meithrin cyfrwng Cymraeg yn ategu hyn fel rhan greiddiol o’r gymuned leol
* y gymuned: creu rhaglen o hyrwyddo cymunedau Cymraeg, gan gynnwys creu gwahanol fodelau o Ganolfannau Cymraeg
* Cymreigio’r gweithle: creu cwotâu at gyfer cynyddu nifer gweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn llywodraeth leol, i gychwyn.
* Addysg Gymraeg: sicrhau twf cyflym addysg Gymraeg
Mae Dyfodol yr Iaith am weld £5 miliwn cychwynnol yn cael ei roi i ddatblygu polisïau a gweithgareddau ym mhob un o’r meysydd hyn.
Mae Dyfodol yr Iaith hefyd am weld cyrff sydd eisoes wedi cael dylanwad, fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion yn parhau i allu gweithredu’n greadigol ac effeithiol.