“Trychineb ieithyddol” yw penderfyniad y Llywodraeth i beidio bwrw ymlaen i sefydlu Corff Cynllunio Iaith, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.
Bu Dyfodol yr Iaith yn galw am gorff o’r fath i arwain cynllunio ieithyddol yng Nghymru, gan ddilyn egwyddorion cynllunio iaith sydd wedi’u derbyn ledled y byd.
“Mae’r Llywodraeth wedi gwastraffu saith mlynedd trwy beidio hyrwyddo’r iaith yn iawn,” medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “ond maen nhw’n awr yn gwrthod mynd y cam nesaf angenrheidiol, sef cynllunio dyfodol y Gymraeg yn ôl egwyddorion cydnabyddedig.”
“Mae angen cynlluniau ar frys i gryfhau’r Gymraeg mewn cartrefi, ac i adeiladu cymunedau Cymraeg, ar lawr gwlad ac ym myd technoleg, ond does neb yn cymryd cyfrifoldeb am y darlun cyflawn.”
“Mae syniadau gwallgo’r Llywodraeth, fel gwneud y Saesneg yn orfodol mewn cylchoedd chwarae Cymraeg, yn profi mor ddi-glem mae’r Llywodraeth o ran cynllunio iaith.”
“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i greu corff mewnol i arwain ar gynllunio iaith, os nad yw’n fodlon creu corff hyd braich. Mae’r angen am gael arbenigwyr ieithyddol, yn lle gwleidyddion, yn amlwg