Y CWRICWLWM NEWYDD YN ANELU SAETH AT GALON ADDYSG GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i gymal ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar Gwricwlwm Newydd i Gymru. Dywed y cymal bod rhaid i addysg a gyllidir, gan gynnwys Cylchoedd Meithrin, addysgu Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm. Mae hyn yn tynnu’n groes a’r drefn bresennol, lle caniateir i’r Saesneg cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen.

 

“Mae’r cymal hwn yn anelu saeth at galon addysg Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad. “Mae’r cyfnod sylfaenol yn dyngedfennol o safbwynt dysgu. Rhaid mynnu ar ofod arbennig i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn os ydym am i’n plant ddysgu a dod yn rhugl yn y Gymraeg. Ni allaf feddwl am unrhyw gynsail i’r fath gynnig; yn wir, mae’r Papur Gwyn yn cydnabod ei hun nad yw’r Saesneg yn bwnc sydd angen y fath statws statudol.”

 

“Ffolineb arall, wrth gwrs, yw bod y Llywodraeth yn dadwneud yr ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg ac yn tanseilio ei nod o greu miliwn o siaradwyr. Ni allwn dderbyn y fath ergyd hurt. Mae’n gam digyffelyb i’r gorffennol, ac yn tanseilio rhai o egwyddorion sylfaenol addysg Gymraeg.”

 

NOSON O HWYL YNG NGHWMNI TRI GOG A HWNTW YNG NGHAERFYRDDIN

Cynhelir noson arbennig gyda Tri Gog a Hwntw, sef criw o  i godi arian at ein gwaith.

2il o Chwefror 2019 am 8yh yng Nghlwb Rygbi’r Cwins, Caerfyrddin. Tocynnau £8 o Siop y Pentan, Caerfyrddin, neu cysylltwch â Meinr James – [email protected]

Sicrhewch eich tocyn yn fuan. Croeso i chi ddanfon y neges ymlaen at unrhywun arall fyddai â diddordeb i ddod i’r noson.

GALW AM RAGLEN HYFFORDDIANT IAITH I ATHRAWON

Mae Dyfodol yr Iaith yn galw am fuddsoddiad sylweddol mewn rhaglen hyfforddiant iaith i athrawon.

Daw’r alwad yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog addysg, Kirsty Williams, y bydd Cymraeg ail iaith yn cael ei dileu.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog, ond mae’n rhaid cael rhaglen ddwys o hyfforddiant iaith i filoedd o athrawon.”

“Ar hyn o bryd, ysgolion Cymraeg sy’n dysgu pynciau trwy’r Gymraeg yw’r unig fodel sy’n cyflwyno’r Gymraeg a’r Saesneg yn llwyddiannus i bob disgybl.”

“Dyw dysgu’r Gymraeg fel pwnc ddim yn ddigon – mae’n rhaid dysgu pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.  Fydd ysgolion Cymru ddim yn gallu gwneud hyn heb fod cynnydd mawr yn nifer yr athrawon Cymraeg sydd â chymhwyster yn yr iaith, a chynnydd mawr yn nifer yr athrawon pwnc sy’n gallu dysg trwy gyfrwng yr iaith.”

“Mae’n rhaid i ni ddilyn patrwm Gwlad y Basgiaid, lle rhoddwyd buddsoddiad enfawr i gael athrawon â sgiliau ieithyddol digonol.  Heb wneud hyn, mae perygl y bydd gobeithion y Gweinidog yn mynd i’r gwellt.”

“Rydyn ni’n galw, felly, ar y Llywodraeth i gyflwyno rhaglen helaeth o hyfforddiant iaith i filoedd o athrawon.”