Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i gymal ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar Gwricwlwm Newydd i Gymru. Dywed y cymal bod rhaid i addysg a gyllidir, gan gynnwys Cylchoedd Meithrin, addysgu Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm. Mae hyn yn tynnu’n groes a’r drefn bresennol, lle caniateir i’r Saesneg cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen.
“Mae’r cymal hwn yn anelu saeth at galon addysg Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad. “Mae’r cyfnod sylfaenol yn dyngedfennol o safbwynt dysgu. Rhaid mynnu ar ofod arbennig i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn os ydym am i’n plant ddysgu a dod yn rhugl yn y Gymraeg. Ni allaf feddwl am unrhyw gynsail i’r fath gynnig; yn wir, mae’r Papur Gwyn yn cydnabod ei hun nad yw’r Saesneg yn bwnc sydd angen y fath statws statudol.”
“Ffolineb arall, wrth gwrs, yw bod y Llywodraeth yn dadwneud yr ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg ac yn tanseilio ei nod o greu miliwn o siaradwyr. Ni allwn dderbyn y fath ergyd hurt. Mae’n gam digyffelyb i’r gorffennol, ac yn tanseilio rhai o egwyddorion sylfaenol addysg Gymraeg.”
Yr wyf yn cytuno â chi cant y cant.
Rhaid ymdrwytho plant meithrin a babanod yn gyfangwbl yn y Gymraeg er mwyn eu gwneud yn thugs.