Dilynynwch y ddolen am sylwadau llawn Dyfodol i’r Iaith ar yr adolygiad o Gynlluniau’r Gymraeg Mewn Addysg
Archifau Blynyddol: 2018
DYFODOL YN CROESAWU GWARIANT I HYBU ADDYSG GYMRAEG
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth i wario £51m ar hybu addysg Gymraeg
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:
“Rydym yn falch iawn o glywed bod yr arian ar gael ar gyfer hyrwyddo angen mor allweddol. Byddwn yn pwysleisio fodd bynnag ein bod am weld yn Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol greu cynlluniau i ddatblygu addysg Gymraeg dros gyfnodau o 10 ac 20 mlynedd er mwyn sicrhau cynllunio pellgyrhaeddol.”
“Bydd angen cefnogi’r gwariant gyda rhaglen sy’n caniatáu gweithredu brys a chynllunio hirdymor deallus er mwyn creu cynllun eang a fydd yn cyfrannu’n realistig at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.”
EISTEDDFOD 2018 A CHYFARFODYDD DYFODOL I’R IAITH
Gobeithio i bawb fwynhau’r Eisteddfod yn ym Mae Caerdydd eleni, a diolch gwresog i’r sawl a ddaeth draw i lenwi Pabell y Cymdeithasau ar gyfer ein dau gyflwyniad eleni. Gobeithio i chwi fwynhau’r cynnwys, a chael rhywbeth i gnoi cil drosto. Nodir yn fras isod cynnwys y ddau gyflwyniad:
Gwion Lewis yn awgrymu sut mae manteisio ar sefyllfaoedd cynllunio iaith (08/08/18)
Mae angen cynnwys egwyddorion cynllunio iaith yn y drefn cynllunio gwlad a thref, gan fod y sefyllfa gyfredol yn wan, a’r Llywodraeth yn mynd i’r cyfeiriad anghywir ar hyn o bryd. Er i Ddeddf Cynllunio Cymru 2015 gymryd cam i’r cyfeiriad iawn, wrth dderbyn y Gymraeg fel “ystyriaeth berthnasol”, mae angen rhagor o waith.
Dyma oedd prif argymhellion Gwion Lewis:
- Mwy o bwyslais ar gynllunio cymunedol
Mae cynllunio lleol eisoes yn digwydd ar lefel Cynlluniau Datblygu Lleol, ond mae’r cynllunio hyn ar raddfa ac ar gyfer ardaloedd eang. Mae angen haen ychwanegol i’r broses; gyda penderfyniadau creiddiol, megis niferoedd tai, yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol, ond y penderfyniadau dros eu lleoliad yn gyfrifoldeb Cynghorau Cymuned (neu gorff cyffelyb).
Yn y pen draw, byddai mwy o rym ar lefel lleol yn caniatáu i gymunedau ddiffinio’r math a chymysgedd o dai fyddai’n addas. Nid oes gan Awdurdodau Lleol yr adnoddau i ganolbwyntio ar anghenion lleol, a byddai trefn fwy datganoledig yn caniatáu gwell dialog gyda’r datblygwyr, gan eu bod yn y bôn, eisiau osgoi costau apeliadau. Byddai’r sefyllfa’n grymuso cymunedau i osod amodau ffafriol o safbwynt iaith ac isadeiledd cymunedol fyddai’n ei chefnogi.
- Dysgu gwersi o ddeddfwriaeth amgylcheddol
Mae dynodiad ardaloedd o ‘gadwraeth amgylcheddol arbennig’ yn galw am broses gymhleth ac asesiadau manwl o safbwynt cynllunio, ac nid oes trefn gyffelyb yn bodoli o safbwynt y Gymraeg – yng Nghymru, caiff y dolffin trwynbwl fwy o warchodaeth na’r iaith. Bydd angen, felly i bwyso am ddynodi ardaloedd o ‘bwysigrwydd ieithyddol’, a rhoi’r ddyletwydd i’r Comisiynydd ddatblygu arbenigedd a rhoi cyngor ar gynlluniau ar gyfer yr ardaloedd hyn.
- Dileu Polisi anghyfreithiol y Nodyn Cyngor Technegol 20
Er i’r Gymraeg gael ei nodi’n ‘ystyriaeth berthnasol’ yn Neddf Cynllunio 2015, eto mae’r Nodyn Cyngor Technegol a ddarparwyd mewn perthynas â’r Gymraeg yn tanseilio hyn, a gweithio yn erbyn cynllunio ieithyddol. Nodai; ‘Ni ddylid fel arfer cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg …’ Yr eithriadau i hyn yw cynlluniau mawr, a chynlluniau ar hap (tu hwnt i’r Cynllun Datblygu Lleol).
Mae’r sefyllfa hon yn cyfyngu ar warchodaeth y Gymraeg, yn tanseilio’r gyfraith, ac yn cynnwys ddim tu hwnt i gynlluniau ar gyfer tai.
Eluned Morgan AC yn ymhelaethu ar gynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg (10/08/18)
Mae’r cynlluniau diweddaraf yn codi o weledigaeth ehangach Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn fwy penodol o’r nod i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nodwyd yn ogystal bod effeithiau Bregsit yn ffactor ac yn fygythiad.
- Y bwriad yw sefydlu Comisiwn newydd gyda’r arbenigedd a’r hyder i hyrwyddo’r iaith, ond nodwyd yr un pryd nad oedd yn fwriad cael gwared â’r safonau iaith, ac mai’r nod oedd i’w symleiddio. Datganwyd yn ogystal fwriad i ehangu’r safonau i’r sector breifat
- Bydd y gwaith diweddar ar Gynlluniau’r Gymraeg Mewn Addysg yn sail ar gyfer gweithredu pellach, a gweithio’n agosach gydag Awdurdodau Lleol. Bydd angen ehangu a chryfhau partneriaethau gydag addysg bellach a’r sector breifat er mwyn cael y manteision llawnaf
- Mae’n bwysig hefyd cynyddu’r Gymraeg mewn perthynas â thechnoleg ddigidol
- Gan fod nifer y sawl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn gostwng wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, bydd rhaid annog gwell defnydd o wasanaethau Cymraeg
- Mewn hinsawdd economaidd ansicr, bydd rhaid defnyddio adnoddau’n ddoeth; wynebu penderfyniadau ymarferol, megis blaenoriaethu rhwng cyfieithu dogfennau a hyfforddi a buddsoddi mewn mwy o athrawon Cymraeg.
Ar ddiwedd y cyflwyniad, rhoddwyd nifer o gwestiynau gerbron y Gweinidog, a dyma grynhoad o’i hymatebion:
- Cytuno fod gweithleoedd Cymraeg yn bwysig, ac yn y cyd-destun hwn, ategodd nad oes bwriad tynnu’n ôl ar y safonau iaith, ond symleiddio’r broses cwynion.
- O safbwynt perthynas y Comisiwn newydd a’r Llywodraeth, cadarnhaodd mai’r Llywodraeth fyddai’n parhau i ddeddfu a gosod cyd-destun polisi, ond byddai’r gwaith o hyrwyddo yn disgyn ar y Comisiwn, fel corff hyd-braich. Roedd am weld y Comisiwn yn gweithredu ar sail arbenigedd cynllunio ieithyddol, ac yn gobeithio am berthynas cadarnhaol a heriol rhyngddi a’r Llywodraeth. Byddai’r hawl i herio a beirniadu’r Llywodraeth yn galw am elfen o annibyniaeth i’r comisiwn
- Byddai addysg yn aros gyda’r Adran Addysg (am resymau ariannol), ond gyda’r Comisiwn yn hyrwyddo addysg Gymraeg
- Mewn ymateb i gwestiynau ar strwythur y Comisiwn, dywedodd nad oedd hyn wedi ei benderfynu eto, ond efallai y byddai nifer o Gomisiynwyr i adlewyrchu ystod o arbenigedd. Dan y drefn hon, byddai’r Comisiynwyr mae’n debyg, yn gweithredu fel Bwrdd Rheoli, gyda Phrif Weithredwr a staff, ond penderfyniad y Comisiynwyr fyddai hynny yn y pen draw.
- Cytunodd y byddai’n rhaid i’r Comisiwn fod yn bwerus er mwyn gwireddu Strategaeth y Gymraeg.
- Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â’r cyfamser, cyn sefydlu’r Comisiwn, dywedodd nad oedd am golli momentwm, a byddai’r Comisiynydd yn cael ei b/phenodi ddaechrau 2019; nid oedd ychwaith am golli’r arbenigedd presennol. Ni roddir amser rŵan i safonau iaith newydd; y flaenoriaeth yw sefydlu Bil Y Gymraeg a chael y cydbwysedd cywir rhwng rheoleiddio a hyrwyddo
- Mewn ymteb i gwestiwn ar gynllunio gwlad a thref a’r economi, atebodd y byddai’r Comisiwn yn ymgymryd â meysydd newydd. Cytunodd bod angen gwell cyswllt rhwng datblygu economaidd a’r iaith, yn enwedig yng nghyd-destun Bregsit a’i effaith ar ardaloedd gwledig a chadarnleoedd y Gymraeg.