GALW AM BOLISIAU I ANNOG MYFYRWYR CYMRU I ASTUDIO YM MHRIFYSGOLION CYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant i annog disgyblion Cymru i astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn hytrach na’u hannog i fynd i Loegr.

Yn dilyn cyhoeddi ffigurau sy’n awgrymu bod llai o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Dyfodol i’r Iaith am weld y Llywodraeth yn rhoi’r gorau i ariannu myfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr, oni bai eu bod yn dilyn cyrsiau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru.

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd am weld cynllun Seren, sy’n targedu disgyblion galluog yng Nghymru, yn canolbwyntio ar annog myfyrwyr i astudio yng Nghymru.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae gan y Llywodraeth darged uchelgeisiol i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, ond mae rhai o’i pholisïau ei hun wedi milwrio ers blynyddoedd yn erbyn y targed hwn.  Rydyn ni wedi taflu arian at brifysgolion Lloegr wrth anfon ein myfyrwyr atyn nhw, ac mae hyn yn golygu na fydd y myfyrwyr hyn yn astudio dim trwy’r Gymraeg.

Ychwanegodd Mr Gruffudd, “Yn ddiweddar mae Rhwydwaith Seren wedi targedu disgyblion galluog ein hysgolion i’w cael i astudio yn Grŵp Russell y prifysgolion, nad yw ond un ohonyn nhw – Caerdydd – yng Nghymru. Mae hyn yn sarhad ar brifysgolion eraill Cymru, ac yn rhwym o arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg.”

“Cymru, hyd y gwn i, yw’r unig wlad yn y byd sydd am weld y rhan fwyaf o’i myfyrwyr yn astudio y tu allan i’w gwlad eu hunain am eu gradd gyntaf.”

MWY AM EIN CYFLWYNIADAU YN YR EISTEDDFOD

CYNLLUNIO Â’R GYMRAEG: PWYSO AM GYFUNDREFN SY’N CENOGI’R IAITH

Cydnabyddir eisoes bod perthynas yn bodoli rhwng ffyniant y Gymraeg yn ei hamryfal gymunedau a’r gyfundrefn cynllunio tai a thir. A chyda’r Llywodraeth wedi gosod targed i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yr her yw sicrhau bod y drefn cynllunio’n cefnogi’n hytrach na rhwystro’r uchelgais hon.

 Yn y misoedd diwethaf, cyhoeddwyd glasluniau ar gyfer Fframwaith Cynllunio a Pholisi Cynllunio newydd i Gymru. Ond a fydd y datblygiadau diweddaraf hyn yn debygol o weithio’n gadarnhaol o blaid y Gymraeg? Os ddim, sut mae diwygio’r drefn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i dwf y Gymraeg?

Dyma rhai o’r cwestiynau fydd yn cael eu trafod gan Gwion Lewis yng nghyflwyniad Dyfodol i’r Iaith ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni. Mae’r mudiad yn falch iawn i groesawu siaradwr sydd ag arbenigedd dwys yn y maes cymhleth hwn, ac sydd a’r ddawn i ddod a’i wybodaeth o fewn cyrraedd pawb

Mae Gwion Lewis yn Fargyfreithiwr gyda Landmark Chambers yn Llundain; ei arbenigedd yw cyfraith cynllunio, ac yn unol a’i gefndir a’i ddiddordebau, mae’n ddihafal gymwys i drafod y maes hwn yng nghyd-destun Cymru a’r Gymraeg.  Cynhelir y cyfarfod am 11.45yb, dydd Mercher 8 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau.

COMISIWN NEWYDD I’R GYMRAEG: CYFLE I EHANGU’R AGENDA?

Beth allwn ni ddisgwyl o’r Comisiwn newydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar gyfer cefnogi’r amcan o greu miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn 2050? Mae Dyfodol i’r Iaith yn sicr yn awyddus i gael gwybod mwy, a chael trafod y strwythurau newydd fydd yn mynd i’r afael â’r her o hyrwyddo twf yr iaith.

 Mae Dyfodol i’r Iaith yn falch iawn felly, o groesawu Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan i annerch ein cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod yn Nghaerdydd eleni. Bydd hyn yn gyfle gwych i ddod i wybod mwy am weledigaeth y Llywodraeth i’r Gymraeg, a’r egwyddorion sy’n ei chynnal.

 Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

 “Mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn pwyso am gyfeiriad polisi newydd mewn perthynas â’r Gymraeg ers blynyddoedd bellach, a chredwn fod llawer i’w groesawu yn natganiadau diweddaraf y Llywodraeth. Yn amlwg, byddwn yn edrych yn fanwl ar sut y datblygir y cyfeiriad newydd hwn, ac edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r gwleidyddion dros y misoedd i ddod. Dymunwn weld fframwaith a strwythurau fydd yn caniatáu ystyriaeth o anghenion y Gymraeg ar draws yr holl feysydd polisi; a gweledigaeth ehangach, sy’n rhoi’r pwyslais ar dwf y Gymraeg, a hynny o safbwynt y nifer sy’n ei siarad, a’r cyfleoedd i’w defnyddio.”

 “Edrychwn ymlaen at gael holi’r Gweinidog drwy ein Panel, a byddwn yn pwysleisio’r angen amlwg am ymrwymiad ac adnoddau i wireddu’r weledigaeth.”

 Cynhelir y cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau am 1.15yp ar ddydd Gwener Awst 10.

Y GYMRAEG AC S4C: DYFODOL YN MYNNU AR FLAENORIAETH I’R IAITH

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi gofyn am gyfarfod buan gyda Phrif Weithredwr S4C i drafod eu pryderon ynglŷn â sut mae’r sianel yn blaenoriaethu’r Gymraeg.

Yn dilyn ymholiadau diweddar y mudiad, ymddengys mai ond 15-20% o oriau darlledu’r sianel sy’n cael ei is-deitlo yn y Gymraeg, tra rhoddir is-deitlau Saesneg i 78% o’r rhaglenni. Testun pryder arall yw’r cynnydd yn y dialog Saesneg sy’n ymddangos mewn cyfresi dramâu.

Dywed Eifion Lloyd Jones llefarydd Dyfodol:

“Sianel cyfrwng Cymraeg yw S4C, a sianel sy’n bodoli er lles yr iaith. Credwn fod y methiant o safbwynt cyflenwi is-deitlau digonol yn y Gymraeg yn amddifadu’r siaradwyr rheiny sy’n Fyddar neu’n drwm eu clyw o’r gwasanaeth darlledu ddylai fod ar gael yn hygyrch iddynt yn eu hiaith eu hunain.”

“Pryder arall yw’r defnydd cynyddol o Saesneg mewn cyfresi drama, megis Pobol Y Cwm. Mae gan raglenni o’r math rôl bwysig i’w chwarae mewn normaleiddio’r Gymraeg, a rhannu’r neges gadarnhaol fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, a bod ei dysgu a’i siarad yn sgil sy’n agored i bawb.”

“Edrychwn ymlaen at ymateb y sianel, ac at drafodaeth adeiladol ynglŷn â chadarnhau ei hamcan creiddiol.”