Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn sefydlu corff annibynnol i hyrwyddo’r Gymraeg. Bydd y corff, pan gaiff ei sefydlu, yn rhoi blaenoriaeth i weithredu cynlluniau iaith ar sail egwyddorion cydnabyddedig cynllunio ieithyddol. Dyna neges Cynog Dafis mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddiwedd Ebrill.
Er bod camau wedi’u cymryd ym maes hawliau unigolion dros y pum mlynedd diwethaf, mae hi’n bwysig bod defnydd o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo yn y cartref, yn y gymuned, ac ym myd gwaith. Nid mater i ddeddfu yn ei gylch yw hyn, ond testun gweithredu cadarnhaol gan y llywodraeth ar lawr gwlad.
Mae angen ystyried sut gall siroedd gorllewin Cymru gyfuno i roi polisïau llesol i’r Gymraeg ar waith. Byddai hyn yn cynnwys twf economaidd a chynllunio tai yn ogystal â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwaith mewn awdurdodau lleol a chyrff eraill.
Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran statws y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd, yr angen mawr yw cryfhau’r Gymraeg yn y cartref, yn y gymuned ac mewn addysg. Y tri maes yma yw’r conglfeini ar gyfer sicrhau twf yn niferoedd siaradwyr ac yn y defnydd o’r Gymraeg yn y dyfodol.