CYFARFOD Â’R YSGRIFENNYDD ADDYSG A GWEINIDOG Y GYMRAEG

A hithau’n amser tyngedfennol o safbwynt camau nesaf Strategaeth y Gymraeg a sefydlu proses ystyrlon ar gyfer cyrraedd yr uchelgais o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, roedd Dyfodol yn ddiolchgar o’r cyfle i gyfarfod â Kirsty Williams ac Alun Davies yn ddiweddar.

Os am wireddu’r weledigaeth, yna’n amlwg, bydd addysg, twf sylweddol mewn addysg Gymraeg a sicrhau gweithlu cymwys i fynd i’r afael â hyn yn allweddol bwysig. Dyna oedd ein prif neges i’r gwleidyddion a’r gweision sifil. Pwysleisiwyd yn ogystal bod angen sicrhau strwythurau a pholisïau sy’n caniatáu ymateb cadarnhaol i’r Gymraeg mewn addysg ar bob lefel: o’r llywodraeth i awdurdodau lleol, ac yna i rannu’r neges am fanteision y Gymraeg ac addysg Gymraeg gyda rhieni a darpar-rieni. Gosodwyd hyn yng nghyd-destun creu cyfleoedd i ddysgu’r iaith i safon a darparu cyfleoedd i fwynhau’r Gymraeg ar draws ystod o sefyllfaoedd a phrofiadau.

Cawsom wrandawiad a negeseuon cadarnhaol: yn bennaf cydnabyddiaeth o’r angen i godi ymwybyddiaeth ieithyddol a diwylliannol Cymreig, ac i hyrwyddo defnydd o’r iaith tu hwnt i’r dosbarth.

Cadarnhawyd yn ogystal y bydd disgwyl adroddiad Aled Roberts ar Gynlluniau’r Gymraeg Mewn Addysg (h.y. cynlluniau’r awdurdodau lleol) ymhen yr wythnosau nesaf. Lleisiwyd ein barn y bod angen ailwampio’r cynlluniau presennol i gyd-fynd â chynlluniau’r Llywodraeth. Un elfen bwysig o hyn byddai ymestyn cylch y cynlluniau’n sylweddol o’r 3 mlynedd bresennol, er mwyn caniatáu i’r awdurdodau gynllunio twf Gymraeg dros yr hirdymor. Byddwn yn galw’n ogystal am fonitro iaith o’r amser y mae plentyn yn cychwyn ei addysg, yn hytrach na 7 oed, fel ar hyn o bryd.

Arhoswn tan gyhoeddi’r Papur Gwyn yn ystod yr haf am newyddion pellach ynglŷn â gweledigaeth y Llywodraeth, ac am fanylion yr Asiantaeth i hyrwyddo’r Gymraeg.

 

CYFARFOD Â CHADEIRYDD GRŴP TRAWSBLEIDIOL YR IAITH GYMRAEG

Cawsom gyfarfod calonogol ac adeiladol gyda Jeremy Miles, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg yr wythnos hon.

Testun y drafodaeth oedd addysg Gymraeg – mater sy’n gwbl allweddol i lwyddiant Strategaeth y Gymraeg, a blaenoriaeth brys ar gyfer cynllunio tuag at gynnydd. Dyma fu ein prif neges, yn ogystal â phwysigrwydd gwella ansawdd ac ymrwymiad Cynlluniau Strategol y Gymraeg yr awdurdodau addysg lleol, gan sicrhau eu bod yn ymateb yn ystyrlon at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Pwysleisiwyd mai canolbwyntio ar greu ysgolion Cymraeg a symud tuag at newid cyfrwng ysgolion i’r Gymraeg fyddai’n arwain at y canlyniadau gorau o safbwynt sicrhau siaradwyr y dyfodol

Yn unol â neges gyson Dyfodol, pwysleisiwyd yn ogystal bod rhaid i unrhyw gynllunio digwydd yng nghyd-destun hyrwyddo defnydd eang o’r iaith. Mewn perthynas ag addysg, byddai’r cyd-destun hwn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o fanteision y Gymraeg, yn ogystal â sicrhau gweithlu digonol o athrawon cymwys ac ymroddgar.

Edrychwn ymlaen at drafod gofynion addysg ymhellach ymlaen y mis hwn gyda’r Ysgrifennydd Addysg a Gweinidog y Gymraeg.