YR ERGYD DDIWEDDARAF? DYFODOL YN CONDEMNIO BYGYTHIADAU I’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Yn dilyn cyfres o ergydion i wariant ar y Gymraeg yn ddiweddar, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn â’r bygythiadau posib i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sgil cyllideb ddrafft  y Llywodraeth.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Mae cyllideb ddrafft diweddaraf y Llywodraeth wedi dangos yn glir y diffyg parch a sylw a roddir i’r Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cynrychioli bygythiad arall: y tro hwn yn erbyn corff sydd wedi gwneud cymaint i ddatblygu a hyrwyddo addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau.

Cawn yma sefyllfa cwbl hurt lle mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei fygwth, tra bo’r Llywodraeth yn berffaith hapus i barhau i wario ar gefnogi myfyrwyr Cymru i astudio yn Lloegr.

Edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r Llywodraeth a’r Corff ariannu Addysg Uwch.”

DYFODOL I’R IAITH YN GALW TORIADAU I’R GYMRAEG YN GYWILYDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi anfon sylwadau beirniadol ar Gyllideb ddrafft y Llywodraeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad. Mae’r mudiad yn herio sail y toriadau i feysydd yn ymwneud a’r Gymraeg ac yn galw am i’r Llywodraeth ddileu’r toriadau niweidiol hyn, sy’n tynnu’n groes a’u hamcanion strategol a’u dyletswyddau cyfreithiol.

Dywed Dyfodol bod y Cyllid drafft yn dangos bod y Llywodraeth yn cael mwy o arian bob blwyddyn o Lundain, a bod y toriadau i’r Gymraeg yn gwbl ddiangen.

Bydd y Llywodraeth yn derbyn 4% yn rhagor o arian erbyn 2019-20, ac mae’r swm yn cynyddu fesul blwyddyn.

Mae’r ffigyrau a ddefnyddir gan y Llywodraeth i gyfiawnhau’r  toriadau yn seiliedig ar lefel chwyddiant o 3.6%, lefel sy’n llawer uwch na’r uchafswm o 0.5% a welwyd yn ystod 2015, ac yn uwch na rhagolygon Trading Economics o 2.1% erbyn 2020. Bydd y toriadau i’r Gymraeg yn cael eu cynyddu yn sgil chwyddiant, serch bod cyllid y Llywodraeth yn cynyddu mewn gwirionedd. Dyma benderfyniad sy’n dangos diffyg blaenoriaeth a gweledigaeth tuag at y Gymraeg yn hytrach nag unrhyw reidrwydd economaidd.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Wrth gyflwyno’r toriadau hyn, mae’r Llywodraeth yn tynnu’n groes i’w hymrwymiad polisi tuag at y Gymraeg. Ar amser allweddol fel hwn, mae cwtogi’r gefnogaeth i ddiwylliant, celfyddyd, cyhoeddi a darlledu cyfrwng Cymraeg yn gywilyddus. Ar yr un pryd, mae cynlluniau sy’n hyrwyddo’r iaith yn cael eu torri a’i dileu tra erys y twf yn addysg Gymraeg yn anfoddhaol. ’Does angen fawr o ddychymyg i ragweld yr effaith gronnus druenus gaiff hyn ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg.”

“ Yn hytrach na thoriadau i’r meysydd allweddol hyn, mae angen i’r Llywodraeth gyflwyno rhaglen gynhwysfawr sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo defnydd o’r iaith ym mhob agwedd o fywyd teuluol, cymdeithasol, diwylliannol a’r gweithle. Ni fydd modd gwneud hyn heb sicrhau cyllid teilwng.”